John Edwards (gwleidydd)
Roedd John (Jack) Edwards (28 Chwefror 1882 - 23 Mai 1960) yn filwr, yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol y Glymblaid dros etholaeth Aberafan.[1] CefndirGanwyd Edwards yn Llanbadarn yn fab i'r Parchedig James Edwards a Rachel (née Jones) ei wraig. Pan oedd o'n faban symudodd y teulu i Gastell-nedd lle fu ei dad yn gwasanaethu fel gweinidog capel Soar (Annibynwyr). Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Prydeinig a Chanolradd Castell-nedd, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Llundain. Priododd Gweno Elin Bryan merch Dr Joseph Davies Bryan, Alecsandria, ym 1932, cawsant dau fab ac un ferch.[2] GyrfaWedi ymadael a'r coleg bu Edwards yn gweithio fel athro ysgol uwchradd yn Battersea, Llundain. Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gan wasanaethu ar faes y gad yn Ffrainc; dyfarnwyd iddo'r Distinguished Service Order, cafodd e'i enwi ddwywaith mewn cadlythyrau a chafodd ei ddyrchafu i reng is-gyrnol. Cymhwysodd fel bargyfreithiwr ym 1921 a chafodd ei alw i'r bar yn Gray's Inn. Gyrfa gyhoeddusCafodd ei ethol fel Aelod Seneddol fel aelod Rhyddfrydol y Glymblaid ym 1918 gan wasanaethu am un tymor yn unig. Cafodd ei drechu yn etholiad cyffredinol 1922 gan yr ymgeisydd Llafur James Ramsay MacDonald . Ceisiodd am sedd Prifysgol Cymru yn etholiad cyffredinol 1923 ond bu'n aflwyddiannus Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Aberteifi ym 1942 Bu yn aelod o Lys Prifysgol Cymru a Chyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. CyhoeddiadauCyhoeddodd drama Galw'r Môr ym 1923 a chyfieithiad ohoni The Call of the Sea ym 1925. Cyhoeddodd bywgraffiad i'w dad Edwards Castellnedd ym 1935.[3] Bu hefyd yn cyfrannu nifer o erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau cyfreithiol. MarwolaethBu farw yn Surbiton Surrey ym 1960 a chladdwyd ei lwch yn Aberystwyth . Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia