J. P. R. Williams
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd John Peter Rhys Williams (2 Mawrth 1949 – 8 Ionawr 2024).[1] Enillodd 55 o gapiau i Gymru rhwng 1969 a 1981. Ystyrir ef yn un o'r cefnwyr gorau a welodd y gêm erioed. Daeth pobl i'w adnabod fel J. P. R. Williams neu JPR ar ôl 1973 pan ymunodd J. J. Williams â charfan Cymru. GyrfaRoedd yn chwaraewr tenis addawol iawn pan yn ieuanc, ac enillodd bencampriaeth ieuenctid Wimbledon yn 1966 cyn penderfynu canolbwyntio ar rygbi gan y byddai'n cyd-fynd yn well a'i astudiaethau meddygol. Chwaraeodd i glybiau Pen-y-bont ar Ogwr a Chymry Llundain. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 19 oed yn 1969, a chwaraeodd yn y timau a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1971, 1976, a 1978. Mewn deg gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr sgoriodd bum cais ac ni chollwyd yr un o'r gemau. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd yn 1971 a De Affrica yn 1974. Roedd y teithiau yma yn ddwy o'r teithiau mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, a chwaraeodd JPR ran fawr yn y llwyddiant. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei yrfa fel llawfeddyg, er iddo barhau i chwarae rygbi clwb am gyfnod. Fel cefnwr roedd yn enwog am ei ddewrder wrth amddiffyn ac am y ffordd y byddai'n dod i mewn i'r llinell wrth ymosod i greu bylchau. Bywyd personolRoedd JPR yn briod a Priscilla ac yn byw ym mhentref Llansanwyr, ger y Bont-faen, Bro Morgannwg. Roedd ganddynt pedwar o blant. Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, wedi gwaeledd byr yn brwydro llid yr ymennydd bacteriol.[2] Claddwyd ef ym mynwent eglwys Llansanwyr. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia