Harper Lee
Nofelydd o'r Unol Daleithiau oedd Nelle Harper Lee (28 Ebrill 1926 – 19 Chwefror 2016) a oedd yn adnabyddus am ei nofel To Kill a Mockingbird. Roedd y nofel yn llwyddiant o'r cychwyn, gan ennill Gwobr Pulitzer ac fe ddaeth yn glasur o lenyddiaeth Americanaidd fodern. Roedd y plot a'r cymeriadau wedi eu seilio yn fras ar ei arsylwadau o'i theulu a'i chymdogion, yn ogystal â digwyddiad yn agos i'w thref yn 1936, pan oedd yn 10 mlwydd oed. Mae'r nofel yn ymdrin ac afresymoldeb agwedd oedolion tuag at hil a dosbarth ym Mhellafoedd y De yn ystod y 1930au, drwy lygaid dau blentyn. Roedd y nofel wedi ei ysbrydoli gan yr agweddau hiliol a welodd fel plentyn yn ei chartref o Monroeville. Er mai dim ond un llyfr a gyhoeddodd Lee mewn hanner canrif, fe gwobrwywyd gyda Medal Rhyddid yr Arlywydd am ei chyfraniad i lenyddiaeth.[1] Derbyniodd Lee nifer o raddau er anrhydedd, ond dewisodd peidio siarad ar bob achlysur. Fe wnaeth Lee gynorthwyo ei ffrind agos Truman Capote gyda'i ymchwil ar gyfer ei lyfr In Cold Blood (1966).[2] Bywyd cynnarGanwyd a magwyd Nelle Harper Lee yn Monroeville, Alabama, yr ieuengaf o bedwar o blant i Frances Cunningham (Finch) a Amasa Coleman Lee.[3] Ei enw cyntaf, Nelle, oedd enw ei mamgu wedi ei sillafu o chwith, a dyna'r enw roedd hi'n defnyddio.[4] Harper Lee oedd ei llysenw.[4] Roedd ei mam yn wraig tŷ; roedd ei thad, yn gyn golygydd a pherchennog papur newydd, yn gyfreithiwr a wasanaethodd gyda Deddfwrfa Daleithiol Alabama o 1926 hyd 1938. Cyn i A.C. Lee ddod yn gyfreithiwr teitl, fe amddiffynnodd dau ddyn du oedd wedi ei gyhuddo o lofruddio perchennog siop gwyn. Cafodd y ddau, tad a mab, eu crogi.[5] Roedd gan Nelle Lee tri brawd neu chwaer: Alice Finch Lee (1911–2014),[6] Louise Lee Conner (1916–2009) ac Edwin Lee (1920–1951).[7] Wrth fynychu Ysgol Uwchradd Sirol Monroe, datblygodd Lee ddiddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl graddio o ysgol uwchradd yn 1944,[3] fe fynychodd y coleg i ferched (ar y pryd) Huntingdon College yn Montgomery am flwyddyn, yna trosglwyddodd i Brifysgol Alabama yn Tuscaloosa, lle astudiodd y gyfraith am sawl blwyddyn, a lle ysgrifennodd i bapur newydd y brifysgol, ond ni chwblhaodd ei gradd.[3] MarwolaethBy farw Lee yn ei chwsg ar fore 19 Chwefror 2016 yn 89 mlwydd oed.[8][9] Hyd ei marwolaeth, roedd hi'n byw yn Monroeville, Alabama.[10] GwaithLlyfrau
Erthyglau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia