LlysenwEnw amgen na'i briod enw a roddir ar unigolyn, peth, neu le, yw llysenw (hefyd glasenw, blasenw). Math ar lysenw yw ffugenw, e.e. gan lenorion, a hefyd enw barddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. Gall llysenw fod yn wawdlyd ond weithiau hefyd mae'n cyfleu anwyldeb. Llysenwau poblMae'r arfer o roi llysenwau ar bobl yn hynafol a cheir enghreifftiau mewn sawl diwylliant ledled y byd. Mae'n bosibl bod yr arfer yn ymwneud â'r ofergoel gyffredin fod gan enwau priod ryw hud neu rym arbennig yn perthyn iddynt. Gwelir sawl enghraifft o hyn mewn llên gwerin lle mae dyfalu enw priod rhywun yn fotiff cyffredin, e.e. Rumpelstiltskin. Weithiau mae pobl yn dewis llysenw ei hunain ond gan amlaf mae'n cael ei roi arnynt gan bobl eraill. Llysenwau lleoedd a phethauDyma rai enghreifftiau o lysenwau poblogaidd ar leoedd: Pethau:
Llysenwau Cymraeg
Ceir rhai o'r enghreifftiau cynharaf ar glawr o lysenw Cymraeg yn y chwedl Cymraeg Canol Culhwch ac Olwen, e.e. Dillus Barfog, Wrnach Gawr, Gwyddno Garanhir, Lludd Llaw Eraint. Ceir sawl enghraifft yn y Pedair Cainc hefyd, e.e. Teyrnon Twrf Fliant. Ceir un o'r enghreifftiau cynharach oll efallai yng nghanu Taliesin yn enw Fflamddwyn, un o elynion Rheged. Arferai'r beirdd Cymraeg roi llysenwau (enw barddol) ar ei gilydd, weithiau'n barchus ond weithiau hefyd yn ddigon amharchus, i'n golwg ni o leiaf. Cyfeiria Nennius at y beirdd Blwchfardd a Talhaearn Tad Awen er enghraifft. Ceir llu o engrheifftiau yn enwau Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Elidir Sais, Casnodyn. Roedd Cymry cyffredin yr Oesoedd Canol yn arfer defnyddio llysenwau hefyd. Ceir cloddfa arbennig o gyfoethog yn y stent neu arolwg o Feirionnydd a wnaed yn y 1290au, er enghraifft. Gwelir rhai o frenhinoedd a thywysogion y Gymru annibynnol yn derbyn neu'n arddel llysenwau hefyd, e.e. Brochwel Ysgithrog (brenin cynnar ar Bowys), Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr, a Gwladus Ddu, ferch Llywelyn. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia