Gwladus Ddu
Roedd Gwladus Ddu (enw llawn Gwladus ferch Llywelyn) (m. 1251) yn dywysoges Gymreig, yn ferch i Lywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd ac yn wraig i ddau o Arglwyddi'r Mers. BywgraffiadNiw yw'r ffynonellau'n cytuno ynglŷn â chyfreithlondeb Gwladus fel merch Llywelyn gan ei wraig Siwan. Yn ôl rhai ffynonellau roedd hi'n ferch perth a llwyn gan Tangwystl Goch. Fodd bynnag, mae'r ffaith fod Siwan wedi gadael cyfran helaeth o'i thir i Wladus yn awgrymu ei bod yn ferch gyfreithlon iddi. Fel rhan o bolisi ei thad o gynghreirio ag arglwyddi grymus y Mers i wrthsefyll coron Lloegr, priodwyd Gwladus Ddu â Reginald de Braose, Arglwydd Brycheiniog, tua'r flwyddyn 1215, ond does dim cofnod iddyn nhw gael plant. Bu farw Reginald ym 1228. Mae'n bosibl mai Gwladus Ddu yw'r 'chwaer' a gofnodir yng nghwmni Dafydd ap Llywelyn ar ei ymweliad â'r llys yn Llundain yn 1229. Priododd yr ail waith â Ralph Mortimer, Arglwydd Wigmor, Swydd Henffordd, tua'r flwyddyn 1230. Cawsant bedwar mab, sef Roger, Hugh, John a Peter. Bu farw Ralph yn 1246 ac etifeddodd ei fab hynaf Roger Mortimer, yr aglwyddiaeth. Ceir y cyfeiriad olaf at Gwladus ym Mrut y Tywysogion, lle dywedir iddi farw yn Windsor yn 1251. Cwta yw'r cofnod. Ysbrydolwyd y bardd a hanesydd llenyddiaeth Gymraeg Griffith John Williams i ysgrifennu un o'i gerddi iddi ar ôl darllen y cofnod yn y Brut. Plant
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia