Gwibdaith Hen Frân
Mae Gwibdaith Hen Frân yn fand acwstig gwerin amgen o ardal Blaenau Ffestiniog. CefndirFfurfiodd y band yn 2006, gan esblygu o chwarae yn nhafarndai Bro Ffestiniog i wyliau cerddorol megis Gŵyl Car Gwyllt, Tân y Ddraig, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Daeth yr ysbrydoliaeth i enw'r band drwy ddylanwad y band Old Crow Medicine Show ac er cof am Jac y Frân, anifail anwes Phil, un o'r aelodau. ![]() Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cedors Hen Wrach yn 2007 ar label Rasal. Lansiwyd eu hail albwm, Tafod Dy Wraig yn Haf 2008 a dilynodd eu trydydd albwm, Llechan Wlyb ym mis Mai 2010. Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed pe bai'r ddau yn gadael. Ymunodd 3 aelod newydd â'r band ym mis Rhagfyr 2010; sef Justin Allen Davies (Mandolin / Harmonica), Gary Richardson (Gitâr Fas), ac Ieuan Williamson (Banjo), ac yn dilyn bron i dair mlynedd o deithio a pherfformio rhyddhawyd eu 4ydd albwm Yn Ôl ar y Ffordd ym mis Awst 2013. Yn 2021, cyhoeddodd y grŵp eu bod yn rhoi'r gorau i berfformio gyda'i gilydd.[1] Aelodau
Cyn-aelodau
Discograffiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia