Gwesty Robin Hood, Trefynwy
Saif Gwesty Robin Hood yn 124-126 Heol Mynwy yng nghanol Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Mae'n tarddu'n ôl i ddiwedd yr Oesoedd Canol.[1] Fe'i codwyd o garreg ac mae ganddo borth llydan sy'n tarddu'n ôl i'r 15g.[2] - sy'n nodwedd brin iawn yn yr ardal hon. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* gan Cadw ar 27 Mehefin 1952.[3] PabyddiaethArferai Trefynwy fod yn gyrchfan poblogaidd i Babyddion.[4] Pan roedd Michael Watkins yn rhedeg y gwesty yn y 1770au caniataodd i'r offeren gael ei gynnal yma yn yr oruwchystafell.[5][6] Ar y pryd, roedd y Deddfau Penyd yn erbyn Pabyddion mewn grym - hyd at 1778. Ymgyrchodd Watkins yn llwyddiannus (drwy ddeisebu) Ynadon y dref i ganiatau addoli mewn adeilad - a dyfodd yn ei dro i fod yn Eglwys y Santes Fair. Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia