Erthygl am y garreg yw hon. Am y pentref ym Mhowys gweler Llechfaen, Powys.
Craig fetamorffig lwyd yw llech, llechfaen neu lechi. Ffurfiwyd llechfaen pan gafodd glai neu ludw folcanig a oedd wedi suddo i waelod y môr filiynau o flynyddoedd yn ôl ei wasgu a'i droi'n graig.
Mae llechfaen Cymru'n enwog iawn ac mae'n cael ei defnyddio ledled Ewrop. Ceir llawer o chwareli yng ngogledd orllewin Cymru, ger Bethesda a Blaenau Ffestiniog er enghraifft.
Defnydd llechfaen
Deillia'r dystiolaeth gynharaf am ddefnyddio llechfaen o Oes yr Eifftiaid. Gosodent ddarnau o lechen fel tafod yng nghegau mwmiau.[1]
Defnydd pennaf llechfaen yw fel defnydd adeiladu. Y nodweddion sy'n ei wneud yn addas at adeiladu yw nad yw llechfaen yn llosgi, yn wir nid yw prin yn adweithio gydag unrhyw beth, a'i fod yn anathraidd (nid yw dŵr yn ei dreiddio nemor ddim). Oherwydd hyn mae'n ddefnydd adeiladu sy'n para blynyddoedd lawer. Mae modd hollti llechfaen mewn dau gyfeiriad sydd fel arfer ar ongl lletraws i'w gilydd, sef y plân pileri a'r plân hollti.[2] Oherwydd hyn mae modd cynhyrchu gwahanol ddefnyddiai adeiladu yn hwylus ohono.
Gellir hollti llechfaen yn haenau tenau ar hyd y plân hollti a chynhyrchu llechi gwastad, llyfn. Defnyddir llechi ar ben to ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Mae trwch y llechi yn dibynnu yn y lle cyntaf ar yr amgylchiadau pan ffurfiwyd y llechfaen, h.y. pa ddefnydd oedd y gwaddod, ac ar ba dymheredd a gwasgedd y trawsnewidiwyd y gwaddod yn graig.
Defnyddir slabiau mwy trwchus ar lawr mewn lloriau neu lwybrau. Defnyddid slabiau llechfaen hefyd yn gerrig simnau, yn siliau ffenestr, yn linteli ar ben drws neu ffenestr, yn byst drysau, yn gribau, fel cladin, fel copin, ar gyfer muriau a ffensio, yn danciau dŵr, yn risiau, a.y.b.
Mae lliw naturiol llechfaen yn amrywio o ardal i ardal a hynny'n ystyriaeth bwysig yn ei ddefnydd pensaernïol. Ceir llechfaen unlliw a llechfaen brith, yn llwyd, porffor, glas, coch a gwyrdd. Cynlluniwyd to llechi gwyrddion ar gyfer adeilad Prifysgol Cymru Bangor: rhaid oedd cael y llechi o Benfro gan nad oedd chwareli llechi gwyrddion Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu llechi ar adeg yr adeiladu yn 1907.[3] Defnyddir llechfaen o wahanol liwiau i greu patrymau addurniadol ar doeon ac mewn cladin, megis yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Yn ddiweddar dechreuwyd defnyddio agreg llechfaen yn y diwydiant adeiladu ac mewn gerddi. O'r mynyddoedd gwastraff llechfaen y daw'r agreg.
Defnydd arall
Defnyddir llechfaen ar gyfer cerrig beddi. Mae'n addas at gerrig beddi oherwydd ei fod yn ddigon meddal i'w naddu, mae wyneb y garreg yn llyfn ac yn unlliw. Oherwydd hyn nid oes rhaid gwneud y llythrennau o blwm neu eu paentio er mwyn iddynt fod yn ddarllenadwy. Nid yw llechfaen yn treulio yn y tywydd ychwaith er gall llechfaen hollti ar ei thraws, neu mae'r garreg yn gallu colli haenau cyfain o'i hwyneb. Gall hyn ddigwydd i lechfaen o ansawdd isel, megis y llechfaen a ddaw o Sir Benfro, neu gall ddigwydd pan fo carreg yn cael ei naddu yr eildro cryn amser wedi iddi gael ei naddu'r tro cyntaf.
Nid yw llechfaen yn dargludo trydan, cyhyd â bod lefel y sylffwr yn y graig yn ddigon bach. Defnyddid slabiau o lechfaen fel ynysydd ar fyrddau switsis trydan, cyn bod defnyddiau eraill wedi eu datblygu at y pwrpas hwn.[4]
Gan nad yw llechfaen yn llosgi nac yn cario gwres yn rhwydd, defnyddir slabiau o lechfaen i wneud byrddau biliards, meinciau mewn labordai ac mewn llaethdai.
Oherwydd nad yw'n adweithio'n gemegol defnyddir llwch llechfaen fel llanwr mewn amryw o gynhyrchion; e.e. paent, glud, bitwmen, ffelt to, pryfleiddiaid, enamel ar beipiau tanforol.[5]
Defnyddid llechi gan ddisgyblion yn lle papur ysgrifennu o'r 18g hyd at ddechrau'r 20g. Rhoid ymyl o bren am y lechen, a defnyddid pensilau plwm i ysgrifennu arnynt, gan lanhau'r lechen a'i hail-ddefnyddio dro ar ôl tro. Cynhyrchid llechi ysgrifennu gwag, rhai llinellog, llechi â sgwariau arnynt, a llechi gyda mapiau arnynt. O lechfaen y gwnaed byrddau duon hefyd.[6]
Defnyddir llechfaen wrth gynhyrchi addurniadau, gwaith crefft a cherflunio, gan gynnwys gwaith enamlo llechi.
Gwallau'r llechfaen
Gair pobl Blaenau am lechi â smotiau neu stribedi llwydwyn arnynt yw “llechi cachu iar”. Dyma’r esboniad gwyddonol gan Ray Roberts, daearegwr i Gyfoeth Naturiol Cymru:
Reduction spots oedd y llechen cachu iar, neu “smotiau rhydwytho”. Adwaith cemegol yw rhain o amglych darn o rhywbeth organic neu mineral yn y gwaddod gwreiddiol (Reduction yw newid yn y teip o haearn, o ferrous (fe2) i ferric(fe3)). Mae’n gallu digwydd o amgylch un darn bach, ble mae'n arwain at y smotiau, neu o amgylch haenan ble geir y stribedi. Pan mae'n nhw'n cael eu creu mae'r smotiau yn grwn, ond wrth i'r cerrig llaid cael eu gwasgu i greu llechen mae'n nhw'n newid i ffurf elipsoid [hirgrwn]. Mae hyn yn galluogi daearegwyr weithio allan maint a chyfeiriad y straen [1]