Grŵp Coimbra
Mae Grŵp Coimbra yn rhwydwaith o 41 o brifysgolion Ewropeaidd a sefydlwyd ym 1985 ar hyn o bryd. Statws cyfreithiol y grŵp yw cymdeithas ddi-elw o dan gyfraith Gwlad Belg.[1] Cynrychiolir y grŵp gan y Gymanfa Gyffredinol. Lleolir y grŵp ym Mrwsel, prif ganolfan weinyddol yr Undeb Ewropeaidd. Fe'i sefydlwyd ym 1985.[2] Nid oes prifysgol Gymreig yn aelod o'r Grŵp. NodMae'n gweithio er budd ei haelodau trwy hyrwyddo "rhyngwladoli, cydweithio academaidd, rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil, a gwasanaeth i gymdeithas" trwy "greu cysylltiadau academaidd a diwylliannol arbennig", trwy lobïo ar lefel Ewropeaidd, a thrwy ddatblygu arferion gorau.[3] Mae Cynghrair elitaidd y League of European Research Universities (LERU) yn fwy dylanwadol gyda 23 o aelodau, tra bod European University Association (EUA) yn fwy eang gyda thua 850 o aelodau. Ceir sefydliadau lobïo prifysgolion eraill hefyd.[4] Mae'r grŵp wedi'i enwi ar ôl dinas Portiwgal, Coimbra, y sefydlwyd ei phrifysgol yn 1290. DisgrfiadMae'r grŵp yn gweld ei hun fel sefydliad o brifysgolion traddodiadol, Ewropeaidd, amlddisgyblaethol o galibr rhyngwladol uchel. Pwrpas statudol y sefydliad yw creu cysylltiadau academaidd a diwylliannol er budd yr holl aelodau, yn ogystal â rhyngwladoli a chydweithio academaidd. Mae'r aelodau wedi'u huno drwy geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a gwasanaeth i gymdeithas yn gyffredinol.[5] Un nod yw cyfnewid syniadau bywiog. Nod arall y grŵp yw’r dylanwad ar y cyd ar bolisi addysg ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd. Yn 2013 roedd y Grŵp yn cynnwys 40 prifysgol ond mae'r niferoedd wedi disgyn a chodi rhywaint dros y blynyddoedd.[6][7] MembersYn Chwefror 2023 roedd Grŵp Coimbra yn cynnwys 40 prifysgol mewn 22 gwladwriaeth:[8] Aelodau a ataliwydAtaliwyd elodaeth Prifysgol Gwladwriaethol Saint Petersburg (Rwsia) ar 10 Mawrth 2022.[8] Cyn aelodau
(* dynodi aelod sefydlu) Gweler hefydCyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia