European University Association
Mae'r European University Association (EUA) yn cynrychioli mwy na 800 o sefydliadau addysg uwch mewn 48 o wladwriaetau, gan roi fforwm iddynt gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth am bolisïau addysg uwch ac ymchwil.[1] Mae aelodau'r Gymdeithas yn brifysgolion Ewropeaidd sy'n ymwneud ag addysgu ac ymchwil, cymdeithasau cenedlaethol o reithorion a sefydliadau eraill sy'n weithgar mewn addysg uwch ac ymchwil.[2] Mae EUA yn ganlyniad i uno Association of European Universities a'r Confederation of European Union Rectors' Conferences. Digwyddodd yr uno yn Salamanca ar 31 Mawrth 2001. Mae pencadlys yr EUA yn ninas Brwsel yn Ngwlad Belg. AelodaethY prifysgolion yng Nghymru sy'n aelodau (yn 2023) yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd Dyma ddadansoddiad o aelodaeth EUA fesul gwladwriaeth:
Ym mis Mawrth 2022, ataliodd yr EUA 12 aelod o Rwsia yn dilyn anerchiad 2022 Undeb y Rheithoriaid Rwsiaidd (RUR) yn cefnogi goresgyniad yr Wcráin yn 2022, am fod “yn groes ddiametrig i’r gwerthoedd Ewropeaidd y gwnaethant ymrwymo iddynt wrth ymuno â’r UEA”.[4][5][6] Gweler hefydDolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia