Eton
Tref a phlwyf sifil yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Eton.[1] Saif ar lan Afon Tafwys gyferbyn a Windsor, ac yn cysylltu ag e gyda Phont Windsor. Mae'n gorwedd o fewn hen ffiniau Swydd Buckingham ond daeth yn rhan o Berkshire yn 1974. Ers 1998, mae'n ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,692.[2] Mae Caerdydd 178 km i ffwrdd o Eton ac mae Llundain yn 35.2 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 33 km i ffwrdd. Mae'r dref yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad Coleg Eton, ysgol fonedd enwog. Yn Eton y ganwyd George E. Davis, un o sefydlwyr Peirianeg Cemegol. Tarddiad yr enwDaw'r enw 'Eton' o'r Hen Saesneg Ēa-tūn, = Tref-Afon, h.y. Tref ar Afon Tafwys. Cyfeiriadau
Dolenni Allanol
Dinasoedd a threfi
Trefi
|
Portal di Ensiklopedia Dunia