Ysgol fonedd
Math o ysgol breifat yn Lloegr a Chymru sy'n codi ffioedd yw ysgol fonedd. Fel arfer bydd ei disgyblion rhwng 13 a 18 oed. Nid oes gwahaniaeth manwl gywir rhwng ysgol fonedd ac unrhyw fath arall o ysgol breifat. Serch hynny, mae un diffiniad defnyddiol yn awgrymu bod gan ysgol fonedd nifer o nodweddion:
Mae'r enw Saesneg, "public school", yn adlewyrchu bwriad gwreiddiol ysgolion o'r fath y dylent fod yn agored i ddisgyblion heb ystyried yr ardal yr oeddent yn hanu ohoni neu eu henwadau, neu broffesiwn eu tadau, ac na ddylent gael eu rhedeg er elw perchennog preifat. Mae ysgolion bonedd wedi'u cysylltu'n agos â'r dosbarthiadau llywodraethol yn y Deyrnas Unedig a'r Ymerodraeth Brydeinig tra roedd hwnnw'n bodoli. Rheoleiddir ysgolion bonedd gan Public Schools Act 1868.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia