Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Saif Castell Windsor, cartref Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn y fwrdeistref; am y rheswm hwn mae'n cynnwys y gair "brenhinol" yn ei henw. Mae gan yr ardal arwynebedd o 197 km², gyda 150,906 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Reading a Bwrdeistref Wokingham i'r gorllewin, Bwrdeistref Slough i'r dwyrain, Swydd Buckingham i'r gogledd a Surrey i'r de. ![]() Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol. Lleolir pencadlys yr awdurdod yn Maidenhead. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Ascot, Eton a Windsor, a'r pentrefi mawr Bray, Cookham, Datchet, Sunningdale, Sunninghill a Wraysbury. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia