Ellis Owen
Hynafiaethydd, awdur, beirniad llenyddol a bardd o Gymru oedd Ellis Owen, a adwaenir fel rheol fel Ellis Owen, Cefnymeysydd (31 Mawrth 1789 - 27 Ionawr 1868).[1] BywgraffiadGaned ef ar fferm 'Cefn-y-meysydd Isaf', ym mhlwyf Ynyscynhaearn yn Eifionydd ac addysgwyd ef mewn ysgol yn yr eglwys ym Mhenmorfa, gyda David Owen (Dewi Wyn o Eifion) yn gyd-ddisgybl; yna aeth i ysgol yn yr Amwythig i ddysgu Saesneg. Treuliodd ei oes yn hen lanc, adref gyda'i fam a'i chwiorydd, yn ffermio 'Cefn-y-meysydd Isaf' ac fe'i claddwyd ger drws Eglwys Ynyscynhaearn, Pentrefelin ger Cricieth. Fel llawer o bobl dysgedig ei oes, gweithiai oddi fewn ei gymuned, a bu'n warden yr eglwys leol, yn arolygydd 'pwysau a mesur' dros y sir, yn llywydd ac yn ysgrifennydd ysgolion Sul Methodistiaid Calfinaidd Llŷn ac Eifionydd ac yn ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yn Nhremadog. Bardd a hanesyddRoedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes leol, ac ysgrifennodd lawer o erthyglau ar y pwnc mewn amryw o gyfnodolion rheolaidd hefyd e.e. Seren Gomer, Y Drysorfa, Y Gwladgarwr, a'r Brython. Yn 1846 sefydlodd 'Gymdeithas Lenyddol Eifionydd' yng Nghefn-y-meysydd; bu beirdd fel Eben Fardd, Dewi Wyn a Morris Williams (Nicander) yn ymwneud a'r gymdeithas hon am gyfnod o tua 12 mlynedd. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a'i ysgrifau o dan y teitl Cell Meudwy yn Nhremadog yn 1877. Llyfryddiaeth
Enwogion Sir Gaernarfon, 1922, 268-9
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia