Cynffig
Pentref yng nghymuned Corneli, ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Cynffig[1][2] (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeistref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll. Dynodwyd Twyni Cynffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn lle poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod. Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18g. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[4] HanesCeir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cynffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr. Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi
![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia