Chrétien de Troyes
![]() Roedd Chrétien de Troyes (tua 1135 – tua 1183) yn llenor o Ffrainc o'r Canol Oesoedd, a ystyrir fel y cyntaf o chwedleuwyr mawr Ffrainc. BywgraffiadYchydig a wyddys am ei fywyd. Credir iddo gael ei eni yn Troyes o deulu dosbarth canol ac iddo gael addysg dda; gwyddir ei fod yn medru Hen Roeg. Mae'n debyg iddo fod yn llys Marie de Champagne a Philippe d'Alsace, comte de Flandres. I Philippe y cyflwynodd Perceval ou le Conte du Graal. Mae'n debyg iddo gael ei ddeunydd o'r traddodiad celtaidd. Mae Érec et Énide, Yvain ou le Chevalier au Lion a Perceval ou le Conte du Graal yn cyfateb i'r tair stori yn Y Tair Rhamant yn Gymraeg: Geraint ac Enid, Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg. Nid oes sicrwydd a yw'r storïau Cymraeg yn addasiad o weithiau Chrétien ynteu yn weithiau annibynnol yn defnyddio yr un deunydd. Gweithiau
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia