Peredur fab EfrawgChwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw Peredur fab Efrawg (teitl Cymraeg Canol, Historia Peredur vab Efrawc). Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant. Dwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Iarlles y Ffynnon a Geraint ac Enid. Crynodeb o'r chwedlMae'r chwedl yn cyfateb i'r chwedl anorffenedig Perceval ou le Conte du Graal gan yr awdur Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylchg o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12g. Ceir y testun hynaf yn Llawysgrif Peniarth 4 (rhan o lawysgrif gyfansawdd Llyfr Gwyn Rhydderch), o tua diwedd y 13g. Ceir testun hefyd yn Llyfr Coch Hergest a llawysgrifau eraill, diweddarach. Mae'n amlwg fod y testun sydd gennym heddiw yn anghyflawn. Yn y chwedl mae Peredur yn fab i iarll. Lladdwyd yr iarll a chwech brawd Peredur wrth frwydro, ac oherwydd hynny mae ei fam yn ei fagu heb wybodaeth o arfau. Mae'n cyfarfod tri marchog, ac o ganlyniad mae'n marchogaeth ar hen geffyl esgyrniog gyda basged yn lle cyfrwy ac yn mynd i lys Arthur. Yno, mae'n cyfafod Cai, sy'n ei wawdio ac yn ei yrru ar ôl marchog sydd wedi sarhau'r frenhines Gwenhwyfar. Gorchfyga Peredur y marchog, ei ladd a chymeryd ei farch a'i arfau. Mae wedyn yn cael cyfres o anturiaethau, gan yrru'r marchogion y mae wedi eu gorchfygu i lys Arthur. Mae'n cyfarfod â dau ewythr iddo; mae'r cyntaf yn ei rybuddio i beidio â holi ystyr unrhyw beth a wêl, tra yn neuadd yr ail gwêl Peredur y Waywffon Waedlyd a dysgl a gludir gan ddwy forwyn gyda phen wedi ei dorri arni. Ymddengys fod y pen yn cymryd lle y Greal Santaidd yn stori Chretien. Treulia Peredur bedair blynedd ar ddeg gydag ymerodres Caergystennin. LlyfryddiaethTestunau![]()
Darllen pellach
|
Portal di Ensiklopedia Dunia