Caravaggio
Arlunydd o'r Eidal oedd Michelangelo Merisi da Caravaggio (28 Medi 1571 – 18 Gorffennaf 1610). Caiff ei osod yn gyffredin yn yr ysgol Baróc; ef oedd cynrychiolwr adnabyddus cyntaf yr arddull yma o ddarlunio.[1] Daeth i Rufain o Milano ym 1592, pan oedd yr arddull o beintio a elwir yn manierismo ar y blaen. Yn wreiddiol fe arbenigai mewn peintio ffrwythau a blodau (pwnc traddiodadol i beintwyr o Lombardia), ond fe ddatblygodd i ddarlunio ffigyrau dynol, gan gynnwys peintiadau "genre" o fywyd pob dydd. Ymhen tipyn fe ddaeth yn beintiwr i'r cardinal Francesco Maria del Monte. Ei ddarluniau mawr cyhoeddus cyntaf oedd Galwedigaeth Sant Mathew a Merthyrdod Sant Mathew yn San Luigi, eglwys y Ffrancod yn Rhufain. Fe beintiodd cymysgedd o weithiau crefyddol, rhai mytholegol a phortreadau o hyn ymlaen. Roedd yn enwog am realaeth ei ddarluniau, a oedd weithiau'n ysgytiol i'w gyfoedion. Roedd ei ddefnydd o olau a thywyllwch, neu chiaroscuro, yn enwedig o feistrolgar a dylanwadol. Roedd ei fywyd yn gythryblus o fry; ffodd o Rufain ym 1606 ar ôl lladd gŵr o'r enw Ranuccio Tomassoni mewn gornest ar gwrt tenis. Ffodd yn gyntaf i Napoli ac yna i Malta. Yno fe ddaeth yn farchog yn Urdd Sant Ioan o Jerwsalem, ac fe beintiodd ddarlun o Ddienyddiad Ioan Fedyddiwr uwchben allor y marchogion yng nghadeirlan Valletta. Ond ymhen llai na blwyddyn fe'i fwrwyd allan o Urdd Sant Ioan ar ôl iddo ymosod ar farchog arall. Teithiodd hyd a lled Sisili a Napoli yn ceisio osgoi ei elynion, ac fe fu farw o dwymyn yn Porto Ercole yn Toscana ym 1610, yn 38 oed. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia