Dugiaeth Milan
Dugiaeth yng ngogledd yr Eidal ac un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Milan. Sefydlwyd ym 1395 gan Gian Galeazzo Visconti, Arglwydd Milan, a dderbyniodd dystysgrif ymerodrol oddi ar Wenceslaus, Brenin y Rhufeiniaid.[1] Roedd ei diriogaeth pryd hynny yn cwmpasu 26 o drefi a chefn gwlad Gwastatir Padana i ddwyrain bryniau Monferrato. Am y rhan fwyaf o'i hoes, roedd Dugiaeth Milan yn ffinio â Safwy i'r gorllewin, Gweriniaeth Fenis i'r dwyrain, Cydffederasiwn y Swistir i'r gogledd, a Gweriniaeth Genoa i'r de. Bu'r ddugiaeth dan reolaeth Tŷ Visconiti nes 1447, pryd sefydlwyd y Weriniaeth Ambrosaidd wedi i'r Dug Filippo Maria Visconti farw heb etifedd. Gorchfygwyd Milan ym 1450 gan Francesco Sforza, a ddatganodd ei hun yn Ddug Milan. Goresgynnwyd y ddugiaeth ym 1499 gan luoedd Teyrnas Ffrainc i hawlio'r diriogaeth yn enw'r Brenin Louis XII. Adferwyd Tŷ Sforza yn Nugiaeth Milan gyda chymorth y Swisiaid ym 1512, ac eto ym 1521 gan Hapsbwrgiaid Awstria. Rhoddwyd y ddugiaeth i Felipe II, brenin Sbaen, ym 1556, gan ei dad Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a bu dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen am 150 mlynedd bron. Goresgynnwyd y ddugiaeth gan luoedd Awstria ym 1701 ar ddechrau Rhyfel Olyniaeth Sbaen, a rhoddwyd i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn swyddogol yn ôl Cytundeb Milan (1707). Bu dan reolaeth Awstria nes ymgyrch Napoleon Bonaparte yno ym 1796, ac yn sgil Cytundeb Campo Formio (1797) diddymwyd y ddugiaeth a throsglwyddwyd ei thiriogaeth i Weriniaeth Is yr Alpau, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc. Yn sgil cwymp Napoleon a Chynhadledd Fienna (1815), daeth y gyn-ddugiaeth yn rhan o Deyrnas Lombardia a Veneto ac felly yn rhan o Ymerodraeth Awstria. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia