Cadell ab Einion
Aelod o deulu brenhinol Deheubarth oedd Cadell ab Einion neu Cadell ab Einon (bu farw c. 1018); efallai iddo fod yn gyd-frenin Deheubarth rhwng 1005 a 1018.[1] BywgraffiadRoedd Cadell yn fab i Einion ab Owain, oedd yn rheolwr de facto teyrnas Deheubarth yn henaint ei dad, Owain ap Hywel. Fodd bynnag, lladdwyd Einion ar gyrch yng Ngwent yn 984, a phan fu farw Owain, dilynwyd ef ar yr orsedd gan fab arall iddo, Maredudd ab Owain.[1] Mae'r cyfnod yn dilyn marwolaeth Maredudd yn 999 yn un tywyll yn hanes Deheubarth, oherwydd ychydig iawn o wybodaeth a gofnodir yn y brutiau am y blynyddoedd nesaf. Credir fod Cadell wedi dod yn frenin Deheubarth ar y cyd a'i frawd Edwin ab Einion yn 1005. Nid ymddengys i'w fab, Tewdwr ap Cadell, ddod yn frenin Deheubarth, ond llwyddodd ei ŵyr, Rhys ap Tewdwr, i ennill yr orsedd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081.[1] Llinach
Llyfryddiaeth |
Portal di Ensiklopedia Dunia