Edwin ab Einion
Aelod o deulu brenhinol Deheubarth oedd Edwin ab Einion neu Edwin ab Einon (bu farw c. 1018); efallai iddo fod yn gyd-frenin Deheubarth rhwng 1005 a 1018.[1] BywgraffiadRoedd Edwin yn fab i Einion ab Owain, oedd yn reolwr de facto teyrnas Deheubarth yn henaint ei dad, Owain ap Hywel. Fodd bynnag, lladdwyd Einion ar gyrch yng Ngwent yn 984, a phan fu farw Owain, dilynwyd ef ar yr orsedd gan fab arall iddo, Maredudd ab Owain. Roedd un blaid yn cefnogi hawliau Edwin i'r orsedd, a gwnaethant ymdrech i ddisodli Maredudd yn 992, ond ymddengys i Maredudd eu gorchfygu.[1] Mae'r cyfnod yn dilyn marwolaeth Maredudd yn 999 yn un tywyll yn hanes Deheubarth, oherwydd ychydig iawn o wybodaeth a gofnodir yn y brutiau am y blynyddoedd nesaf. Credir fod Edwin wedi dod yn frenin Deheubarth ar y cyd a'i frawd Cadell ab Einion yn 1005. Daeth ei feibion, Hywel ab Edwin a Maredudd ab Edwin, yn frenhinoedd Deheubarth yn 1033.[1] Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia