Brwydr Mynydd Carn
Brwydr bwysig a ymladdwyd yn y flwyddyn 1081. Mae ei hunion leoliad yn ansicr, er bod gogledd Sir Benfro yn ymddangos yn dra thebygol, efallai yng nghyffiniau Carn Ingli yn y Preseli. HanesWedi marw Gruffudd ap Llywelyn yn 1063 bu Gwynedd yn nwylo brenhinoedd eraill am ddeunaw mlynedd, sef Bleddyn ap Cynfyn o Bowys hyd 1075, a Thrahaearn ap Caradog o Arwystli hyd 1081. O 1075 ymlaen brwydrodd Gruffudd ap Cynan i geisio adennill ei deyrnas. Yn 1081 ffurfiodd gynghrair â Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a llwyddodd i drechu Trahaearn a Charadog ap Gruffudd rheolwr Gwynllŵg) ym Mrwydr Mynydd Carn.[1] Trwy hyn, sefydlwyd y ddwy linach a fu'n teyrnasu drwy Wynedd a Deheubarth.[2] Yn ôl Brut y Tywysogion (fersiwn Peniarth 20),
Yn Hanes Gruffudd ap Cynan, dywedir am Fynydd Carn,
Gweler hefydCyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia