Côr y Cewri
Cylch cerrig yw Côr y Cewri (Saesneg: Stonehenge), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Caersallog i ogledd dinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.[1] Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.[1] Yn wreiddiol tybiwyd fod carreg y Maen Allor yng nghanol y cylch yn dod o Gymru hefyd er fe gwestiynwyd hynny gan wyddonwyr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Yn Awst 2024 cyhoeddwyd ymchwil yn dangos yn hytrach fod y Maen wedi ei drosglwyddo yno o ogledd-ddwyrain Yr Alban. Arweiniwyd yr ymchwil gan Anthony Clarke, myfyriwr PhD o Sir Benfro, sydd yn gweithio ym mhrifysgol Curtin yng ngorllewin Awstralia.[2] Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddon a gododd y cerrig, ac mae'r farn honno yn dal yn boblogaidd heddiw. Cyfeiriadau
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia