Amesbury, Wiltshire
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Amesbury.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Wiltshire. Saif 8 milltir i'r gogledd o Caersallog, yn nyffryn Afon Avon ar ymyl Gwastadedd Caersallog ar y ffordd hanesyddol sy'n cysylltu Llundain a Warminster a Chaerwysg. Mae'n adnabyddus yn bennaf am fod Côr y Cewri (Stonehenge), un o henebion cynhanesyddol enwocaf y byd, yn gorwedd yn y pwlyf. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 10,724.[2] HanesCeir nifer o olion cynhanesyddol yn ardal Amesbury, yn cynnwys Côr y Cewri. Dengys tystiolaeth archaeolegol y bu gan y Rhufeiniaid bresenoldeb yno hefyd. Cysgegrwyd Gwion, Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint yn Amesbury ar 22 Mai 1177. Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia