Aldershot
Tref yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Aldershot.[1] Lleolir ar rostir tua 60 cilometr (37 milltir) i'r de-orllewin o ganol Llundain. Mae ganddi gysylltiadau cryf â'r Fyddin Brydeinig. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan yr ardal adeiledig boblogaeth o 52,211.[2] Mae Caerdydd 170 km i ffwrdd o Aldershot ac mae Llundain yn 54.6 km. Y ddinas agosaf ydy Caerwynt sy'n 43.4 km i ffwrdd. Ar 22 Chwefror 1972 lladdwyd saith o bobl diniwed mewn man bwyta yn adeilad yr 16eg Brigad Parasiwt gan fom car a gynlluniwyd gan yr IRA Swyddogol. Cyhoeddodd yr IRA Swyddogol yn fuan wedi'r ymosodiad mai nhw oedd yn gyfrifol, ac mai dial oeddynt yn erbyn ymosodiadau Derry ddigwyddodd fis yn gynharach, a elwir heddiw yn Sul y Gwaed.[3] Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia