Bordon
Tref a phlwyf sifil yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Bordon.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Whitehill yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Hampshire. Saif yn Fforest Brenhinol Woolmer gynt. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Bordon boblogaeth o 16,035.[2] Rhwng 1903 a 2015 lleolwyd gwersyll byddin yn y dref. Yn 2009, fe'i dynodwyd gan Lywodraeth y DU yn un o bedair eco-dref newydd. Ar ôl ymadawiad y byddin ym mis Rhagfyr 2015 am ganolfan newydd yn Lyneham, Wiltshire rhyddhawyd dros 100 hectar, a roddodd gyfle i drawsnewid y dref o dref garsiwn i leoliad modern ecogyfeillgar erbyn 2036. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia