Ysgol Bro Ogwr
Mae Ysgol Bro Ogwr neu hefyd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i lleolir ar Princess Way, yn ardal Bracla o'r dref. Yr YsgolCeid 428 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr yn 2017. Mae gan yr ysgol 16 dosbarth sy’n cynnwys 2 sy’n rhai oed cymysg a 2 ddosbarth meithrin. Mae 46 o ddisgyblion oed meithrin llawn amser ac 11 yn y dosbarth cyn-feithrin rhan amser. Daw tua 5% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg. Ychydig iawn sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae tua 18% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, ffigwr sy’n sylweddol is na chyfartaledd Cymru. Mae gan oddeutu 11% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Y gyllideb ysgol unigol fesul disgybl ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn 2016-2017 yw £2,952. Yr uchafswm fesul disgybl mewn ysgolion cynradd ym Mhen y bont ar Ogwr yw £4,484 a'r lleiafswm yw £2,872. Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn y 46fed safle o'r 48 ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr o safbwynt y gyllideb ysgol fesul disgybl.[1] Addysg UwchraddMae disgyblion Bro Ogwr sy'n dymuno parhau gydag addysg Gymraeg yn mynd ymlaen i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, sydd yr ysgol uwchradd Gymraeg agosaf ac fe'i lleolir yn nhref Maesteg, neu i Ysgol Gyfun Llanhari. Gwybodaeth am yr YsgolCeir clybiau garddio, chwaraeon a chôr yr ysgol i'r disgyblion. Gwisg YsgolRhaid i'r plant wisgo gwisg ysgol sef; crys polo coch, siwmper neu gardigan gwyrdd, trowsus neu siorts llwyd, ffrog haf gwyrdd ac esgidiau duon.[2] Cyn-ddisgyblion AdnabyddusYmysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r chwaraewr rygbi, Josh Navidi, sydd yn chwarae i glwb (Gleision Caerdydd) a Chymru. DolenniCyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia