Yr Hendre (Mynwy)
Plasty o Oes Fictoria yn Sir Fynwy yw'r Hendre, a godwyd yn yr arddull Gothic. Fe'i lleolir yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, tua phedair milltir i'r gogledd-orllewin o Drefynwy. Yn y 18ed ganrif y cafodd ei godi ar gyfer saethu, ond cafodd ei ehangu gryn dipyn dair gwaith gan deulu Charles Stewart Rolls, un o ddau sefydlydd cwmni ceir Rolls Royce. Mae'r plasty wedi'i gofrestru gan Cadw fel Gradd II*.[1] Mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Glwb Golff Trefynwy. Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2] Roedd yn arferiad ers talwm i ffermwyr symud eu hanifeiliaid yn y gwanwyn i dir uchel, a thros yr adeg yma byddent yn aros mewn cartref a alwant yn "hafod" (preswylfa'r haf); yn yr hydref, byddai'r teulu a'r anifeiliaid yn dod lawr i lawr y dyffryn - i'r "hendref".[3] Teulu'r RollsMae gwreiddyn holl gyfoeth y teulu hwn o dirfeddianwyr yn mynd yn ôl i briodas gŵr o'r enw James James, Mynwy o blwyf Llanfihangel Ystum Llywern, Sir Fynwy a ymgartrefodd yn Llundain ac a etifeddodd ystâd enfawr yn Southwark, Surrey.[4] Prynnodd nifer ffermydd a thiroedd yn Llanfihangel Ystum Llywern a Llangatwg Feibion Afel rhwng 1639 a 1648. Yn ei ewyllus a gyhoeddwyd yn 1677 gadawodd bopeth i'w unig blentyn sef merch o'r enw Sarah a'i gŵr Dr Elisha Coysh.[4] Cawsant ferch a briododd William Allen a prynnodd y ddau ychwaneg o diroedd yn Sir Fynwy.[4] Cawsant ferch na wyddom mo'i henw hithau ac a briododd ei chefnder cyntaf Thomas Coysh.[4] Aeth y cyfan i'w merch Sarah (m. 1801): holl etifeddiaeth teuluoedd Coysh, Allen a James. Priododd hithau John Rolls (1735–1801) a oedd yn enedigol o "the Grange", Bermondsey ac a ddaeth yn Siryf Sir Fynwy ym 1794. Llinach James James, Mynwy a theulu'r "Rolls"
Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia