Yr Awyrlu Brenhinol
![]() Yr Awyrlu Brenhinol neu'r Llu Awyr Brenhinol (Saesneg: Royal Air Force neu'r RAF) yw llu awyr y Deyrnas Unedig. Cafodd ei greu yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf trwy uno'r Corfflu Awyr Brenhinol (y Royal Flying Corps neu'r RFC, sefydlwyd 1912) a'r Gwasanaeth Awyr Brenhinol Llyngesol (y Royal Naval Air Service neu'r RNAS). Cafodd ei ffurfio mewn pryd i weithredu ym mrwydrau olaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng y rhyfeloedd bu'n ymladd yn achlysurol mewn rhannau o'r Ymerodraeth Brydeinig fel Irac a Talaith Ffin y Gogledd-orllewin (Pacistan heddiw) yn erbyn gwrthryfelwyr. Chwaraeodd ran allweddol yn yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, e.e. ym Mrwydr Prydain pan ymosododd y Luftwaffe ar Brydain. Cymerodd ran yn Rhyfel y Gwlff a Rhyfel Irac ac mae rhai unedau'n rhan o'r llu Prydeinig sydd yn ne Irac heddiw, yn nhalaith Basra. Mae'n gweithredu yn Affganistan yn ogystal. Gweinyddir yr RAF gan Adran y Llu Awyr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy'n rhan o lywodraeth y DU yn Llundain. Mae gan yr RAF sawl gwersyll yng Nghymru. Y pwysicaf yw RAF y Fali, gerllaw Y Fali, Ynys Môn. |
Portal di Ensiklopedia Dunia