Ymddiriedolaeth y BBC
Ymddiriedolaeth y BBC (Saesneg: BBC Trust) oedd corff penderfynu’r Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig, BBC, rhwng 2007 a 2017. Roedd yn annibynnol ar gyrff rheoli a gweithredol, a’i nod oedd gweithredu er budd gwylwyr a oedd yn talu ffi’r drwydded deledu. HanesyddolCrëwyd yr Ymddiriedolaeth trwy Siarter Frenhinol ar 1 Ionawr 2007, gan ddisodli Bwrdd y Llywodraethwyr. Yn hwyr yn 2012 roedd Ymddiriedolaeth y BBC wedi ei siglo pan ddatgelodd y wasg fod y BBC wedi gwrthod darlledu rhaglen ddogfen am y cyflwynydd pedoffiliaid, Jimmy Savile.[1]. Yn 2014, pan lansiodd y BBC ei wasanaeth trwyddedu rhyngwladol, Ymddiriedolaeth y BBC oedd ei phrif gorff rheoli.[2] Argymhellodd Adroddiad Clementi 2016 y dylid trosglwyddo trefniadau llywodraethu’r BBC i Ofcom a datgymalu Ymddiriedolaeth y BBC.[3][4] Disodlwyd Ymddiriedolaeth y BBC ar 2 Ebrill 2017 gan Fwrdd y BBC pan ddaeth y Siarter Frenhinol newydd i rym. AelodauGwelir Ymddiriedolaeth y BBC fel meincnod ym maes darlledu cyhoeddus oherwydd nad oes yr un o'i haelodau yn seneddwyr. Bwriad y dewis o aelodau, a ddaw o'r diwydiant darlledu, gan y Frenhines oedd nodi eu hannibyniaeth oddi wrth arweinwyr prif bleidiau'r llywodraeth.[5]. SwyddogaethauYn ôl y Siarter Frenhinol, prif rôl Ymddiriedolaeth y BBC yw goruchwylio strategaeth reoli’r BBC, a goruchwylio gwaith y Bwrdd Gweithredol, i gyd er budd y cyhoedd.[6] Cadeiryddion
Yr Ymddiriedolaeth a'r Gwledydd CeltaiddNid oedd gan yr Ymddiriedolaeth reolaeth na dylanwad dros S4C gan bod gan y Sianel Gymraeg Siarter Brenhinol ei hun. Ond roedd yn ymwneud â gorsafoedd radio yn yr ieithoedd brodorol a'r cenhedloedd Celtaidd: BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gàidheal, BBC Radio Ulster, BBC Radio Foyle a BBC Alba.[9] Bu i'r Ymddiriedolaeth hefyd chwarae rhan weithredol wrth sefydlu sianel Gaeleg BBC Alba. Yn 2007, agorodd Ymddiriedolaeth y BBC ymgynghoriad ar wasanaeth digidol Gaeleg mewn partneriaeth â Gaelid Media Service a arweiniodd at sefydlu'r sianel yn 2008. Mae BBC Alba yn unigryw gan mai hi yw’r sianel gyntaf i gael ei darparu o dan drwydded BBC gan bartneriaeth yn ogystal â bod y sianel aml-genre gyntaf i ddod yn gyfan gwbl o’r Alban gyda bron pob un o’i rhaglenni wedi’u gwneud yn yr Alban.[10][11] Dolenni allannol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia