Y glust fewnol
Y glust fewnol (Lladin: auris interna) yw'r rhan fwyaf mewnol o'r glust fertebraidd. Yn fertebratau, mae'r glust fewnol yn bennaf gyfrifol am ddarganfod sain a chydbwysedd. Mewn mamaliaid, mae'n cynnwys y labyrinth esgyrnog a'r ceudod gwag yn asgwrn arlais y benglog gyda'i system o rwydweithiau sy'n cynnwys y ddwy brif ran weithredol[1]:
Strwythur![]() Yn y cochlea, caiff tonnau sain eu trawsnewid yn ysgogiadau trydanol sy'n cael eu hanfon ymlaen i'r ymennydd. Yna mae'r ymennydd yn cyfieithu'r ysgogiadau mewn i synau yr ydym yn eu hadnabod ac yn eu deall. Mae'r cochlea yn debyg i gragen falwen neu bibell wedi'i weindio sydd yn cael ei lenwi â hylif ac sy'n cael ei alw'n perilymff. Mae'n cynnwys dwy bilen sydd wedi'u lleoli yn agos i'w gilydd. Mae'r pilenni yn ffurfio math o wal i rannu'r cochlea. Er mwyn i'r hylif symud yn rhydd yn y cochlea o'r naill ochr i'r llall, mae gan y wal tyllau ynddo (yr helicotrema). Mae angen y tyllau i sicrhau bod y dirgryniadau o'r ffenestr hirgrwn yn cael eu trosglwyddo i holl hylif yn y cochlea. Pan fydd yr hylif yn symud y tu mewn i'r cochlea, mae miloedd o ffibrau gwallt microsgopig y tu mewn i'r wal raniadol yn cael eu symud. Mae oddeutu 24,000 o'r ffibrau gwallt hyn wedi'u trefnu mewn pedwar rhes hir[2]. Mae'r nerf clywedol yn fwndel o ffibrau nerf sy'n cario gwybodaeth rhwng y cochlea a'r ymennydd. Swyddogaeth y nerf clywedol yw trosglwyddo signalau o'r glust fewnol i'r ymennydd. Mae'r ffibrau gwallt yn y cochlea i gyd wedi'u cysylltu â'r nerf clywedol ac, yn dibynnu ar natur y symudiadau yn hylif y cochlea, mae ffibrau gwallt gwahanol yn cael eu symud. Pan fydd y ffibrau gwallt yn symud, maent yn anfon signalau trydanol i'r nerf clywedol sy'n gysylltiedig â chanolfan glywedol yr ymennydd. Yn yr ymennydd, caiff yr ysgogiadau trydanol eu cyfieithu i synau gellid eu hadnabod a'u deall. O ganlyniad, mae'r ffibrau gwallt yn hanfodol i'r gallu i glywed. Pe bai'r ffibrau gwallt hyn yn cael eu niweidio, yna byddair gallu i glywed yn dirywio[2]. Y festibwlar - y mecanwaith cydbwyseddY festibwlar yw organ cydbwysedd. Swyddogaeth y festibwlar yw cofrestru symudiadau'r corff, gan sicrhau ei fod yn gallu cadw ei gydbwysedd. Mae'r festibwlar yn cynnwys tri darn siâp cylch, sydd wed eu cyfeirio mewn tri arwyneb gwahanol. Mae'r tri llwybr wedi'u llenwi â hylif sy'n symud yn unol â symudiadau'r corff. Yn ogystal â'r hylif, mae'r llwybrau hefyd yn cynnwys miloedd o ffibrau gwallt sy'n ymateb i symudiadau'r hylif, gan anfon ysgogiadau bychain i'r ymennydd. Yna mae'r ymennydd yn dadgodio'r ysgogiadau hyn ac yn eu defnyddio i helpu'r corff i gadw ei gydbwysedd[2]. Arwyddocâd clinigolYmysg anhwylderau'r glust fewnol mae:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia