Clefyd Ménière
![]() Mae Clefyd Ménière yn anhwylder ar y glust fewnol. Mae'r clefyd yn cael ei nodweddu gan fadrondod, y bendro, colled clyw, pwysedd neu deimlad o lawnder yn y glust a thinitws. Gall y claf ddioddef ymosodiadau difrifol, anrhagweladwy ac aflonyddgar iawn a all barhau o 20 munud i 24 awr[1]. Mae'r cyflwr wedi'i enwi ar ôl y meddyg Ffrengig, Prosper Ménière, a ddisgrifiodd y brif symptomau mewn erthygl ym 1861. Ef, hefyd, oedd y cyntaf i awgrymu bod yr holl symptomau yn deillio o un anhwylder ar yr organ cydbwysedd a chlyw yn y glust fewnol[2]. AchosNid yw union achos clefyd Ménière yn hysbys, ond mae'n gysylltiedig â phroblem gyda phwysau yn ddwfn y tu mewn i'r glust[3]. Mae clefyd Ménière yn gronig ac yn gysylltiedig â endolymphatic hydrops sef gormod o hylif yn y glust fewnol. Pan fo'r system lymffatig ar agor, gall effeithio ar ddraeniad endolymff, yr hylif sy'n cwmpasu strwythurau clyw a chydbwysedd y clustiau, sy'n arwain at glefyd Ménière. Gall fod yn deillio o ddifrod i'r pen, dirywiad y glust fewnol, heintiau, alergeddau, etifeddiaeth, neu efallai y bydd yn digwydd am resymau anhysbys[1]. SymptomauYn ystod bwl o glefyd Ménière, gall dioddefwr[4]:
Gall y symptomau hyn, sy'n digwydd fel arfer ar yr un pryd, barhau am ychydig funudau neu am oriau lawer. Ond gan amlaf yn para dwy neu dair awr. Mae'r cyflwr, fel arfer, yn dechrau mewn un glust ond gall ymledu i'r ddau glust dros amser. Gall gymryd diwrnod neu ddau i'r symptomau ddiflannu'n llwyr. Weithiau bydd claf yn teimlo'n hynod flinedig wedi trawiad. Mae'r symptomau'n amrywio o berson i berson, ond mae ymosodiad sy'n cynnwys teimlad o golli clyw heb y bendro yn anghyffredin. Gall ymosodiadau ddigwydd mewn clystyrau neu sawl gwaith yr wythnos, neu gall wythnosau, misoedd neu flynyddoedd eu gwahanu. CyffredinoledMae Clefyd Ménière's yn weddol gyffredin. Amcangyfrifir y bydd un o bob dwy fil o bobl y byd yn dioddef o'r cyflwr yn ystod eu hoes. Mae dynion a merched yr un mor debygol o orfod byw gyda'r cyflwr. Yn gyffredinol mae'r ymosodiad cyntaf yn dechrau rhwng 40 a 50 mlwydd oed, ond mae modd i bobl llawer ifancach a llawer hŷn ei chael am y tro cyntaf[1]. DiagnosisMae'r meini prawf diagnostig ers 2015 sy'n diffinio Clefyd Ménière pendant a Chlefyd Ménière tebygol fel a ganlyn[5]: pendant
tebygol
Er mwyn ceisio canfod os oes diagnosis festibwlar mwy tebygol bydd yr arbenigwr iechyd yn cyflawni archwiliad ffisegol a phrofion gwaed i geisio sicrhau nad oes reswm amgen am y symptomau. TriniaethNid oes unrhyw iachâd ar gyfer clefyd Ménière, ond gall nifer o driniaethau helpu i leihau difrifoldeb ac amlder episodau'r fadrondod. Nid oes unrhyw driniaethau ar gyfer y colled clyw sy'n digwydd gyda'r clefyd. Rhybudd Cyngor Meddygol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia