Gwladwriaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop oedd y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y ffederasiwndeuarchaidd drwy gyfuno Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania (Pwyleg: Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie, Lithwaneg: Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė, Lladin: Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae), neu Gymanwlad y Ddwy Genedl (Pwyleg: Rzeczpospolita Obojga Narodów, Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.
Pwyleg - un o ieithoedd swyddogol y wladwriaeth, iaith y rhan fwyaf o'r bonedd, a'r brif iaith yn ninasoedd a threfi'r wlad.
Lladin – yr iaith swyddogol arall, defnyddiwyd Lladin wrth ymdrin â gwledydd eraill, ac fel ail iaith ymysg y bonedd.
Ffrangeg – mewn gwirionedd, defnyddiwyd mwy o Ffrangeg nag o Ladin yn llys y Brenin o ddechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Defnyddiwyd y Ffrangeg yn iaith gwyddoniaeth a llenyddiaeth.
Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol - a gelwid yn Rwscieg (руски езыкъ) ar y pryd. Hyd at 1697 roedd yn iaith swyddogol yn yr Uchel Ddugiaeth (Lithwania). Disgynyddion yr iaith hon a'i thafodieithoedd yw Wcreineg,Belarwseg a Rusyn. Dyma oedd y brif iaith yn rhannau ddwyreiniol y wlad.
Lithwaneg – nid oedd yn iaith swyddogol. Siaradwyd yr iaith yn rhan ogleddol y wlad, sy'n cyfateb yn fras i'r Lithwania fodern, sy'n llai nag oedd Ddugiaeth.
Almaeneg - defnyddiwyd yr iaith gan leiafrif yn y dinasoedd.
Hebraeg – defnyddiwyd yr ieithoedd Hebraeg ac Aramaeg gan Iddewon wrth ymdrin â materion crefyddol, ysgolheigaidd a chyfreithiol.
Iddew-Almaeneg – dyma oedd iaith bob dydd yr Iddewon, ac felly'n un o brif ieithoedd dinasoedd y wlad
Arabeg – defnyddiwyd Arabeg gan y Tatariaid ar gyfer materion crefyddol. Roeddynt hefyd yn ysgrifennu Rwscieg (gw. uchod) gan ddefnyddio'r Wyddor Arabeg.
↑Peter Paul Bajer, Scots in the Polish-Lithuanian Commonwealth, 16th–18th Centuries: The Formation and Disappearance of an Ethnic Group (Leiden: Brill, 2012).