Lithwaneg
Iaith Faltig Ddwyreiniol yw'r Lithwaneg a siaredir yn bennaf yn Lithwania gan y Lithwaniaid. Mae ganddi dros 3 miliwn o siaradwyr brodorol, 2.8 miliwn ohonynt yn Lithwania.[1] Hi yw'r iaith fwyaf "hynafaidd" o'r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd byw, hynny yw hon yw'r iaith sydd wedi newid lleiaf yn ystod ei hanes. O ganlyniad mae gan y Lithwaneg nifer o nodweddion yr iaith Broto-Indo-Ewropeg.[2] Mae Lithwaneg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. DywediadauHelô: Labas (i gyfarch rhywun a adnabyddir). Sveikas (i gyfarch dyn). Sveika (i gyfarch merch). Sveiki (i gyfarch mwy na un person). Sveikos (i gyfarch mwy nag un ferch). Sut wyt ti?: Kaip tau sekasi?/Kaip sekasi?/Kaip tau? (anffurfiol). Bore da: Laba diena. Prynhawn da: Labas rytas. Noswaith dda: Labas vakaras. Nos da: Labos nakties/Labanaktis (defnyddir cyn mynd i'r gwely). Diolch!: Ačiū!/Dėkui!. Pwy 'dych chi?: Kas esate?/Kas jūs?. Fy enw yw...: Mano vardas yra.../Mano vardas... Dw i'n byw yng Nghymu: Gyvenu Valijoje. Dw i ddim yn deall: Aš jūsų nesuprantu. Mae'r drwg gyda fi: Atsiprašau. Ble mae...?: Kur...?/Kur yra...? Iawn: Gerai. Ydych chi'n medru Saesneg? Ar mokate angliškai? Dw i ddim yn gallu siarad Lithwaneg: Nemoku lietuviškai šnekėti. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia