William John Nicholson
Roedd Y Parch William John Nicholson (23 Rhagfyr, 1866 – 25 Tachwedd, 1943) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1] CefndirGanwyd Nicholson ym Mangor, yn blentyn i William Nicholson[2] oedd ar y pryd yn athro ysgol Llanengan, Llŷn ac Annie (née Roberts) ei wraig. Ym 1867, cafodd William Nicholson ei ordeinio yn weinidog Annibynnol a'i sefydlu yn Rhoslan a Llanystumdwy. Bu'r teulu yn byw yn Llanystumdwy am dair blynedd. Ym 1870, symudodd ei dad i gymryd gofal eglwysi Treflys a Thyn-y-maes, Bethesda. Bu yn y cylch hwnnw hyd 1872. Ym Methesda dechreuodd Nicholson mynychu'r ysgol. Ar ôl ddwy flynedd ym Methesda symudodd y teulu i'r Groes-wen ger Caerffili.[3] Ar ôl pedair blynedd yn y Groes-wen cafodd y tad alwad i olynu Gwilym Hiraethog fel gweinidog Capel Grove Street, Lerpwl. Ar ôl cael ychydig ychwaneg o ysgol gynradd yn Lerpwl danfonwyd William John i'r Ysgol Ramadeg Porthaethwy oedd o dan ofal y Parch. E. Cynffig Davies. Tra yn Ysgol y Borth y derbyniwyd Nicholson yn gyflawn aelod o eglwys yr Annibynwyr. Ym 1883 dechreuodd pregethu fel pregethwr lleyg, a hynny yn Grove Street, eglwys ei dad, a daeth yn bregethwr poblogaidd yn bur fuan. Ym 1885 bu farw ei dad.[4] Blwyddyn wedi marwolaeth ei dad, bu Nicholson yn llwyddiannus yn arholiad mynediad ar gyfer Athrofa'r Annibynwyr Aberhonddu.[5] Dechreuodd ei gwrs paratoad at y weinidogaeth trwy fynychu Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a'i gorffen yn Aberhonddu. GyrfaWedi tair blynedd o hyfforddiant derbyniodd Nicholson alwad i fod yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Saesneg Sant Paul, Abertawe. Cafodd ei ordeinio a'i sefydlu yn weinidog y capel ar 14 Mai, 1889 mewn oedfa a arweiniwyd gan ei ewythr y Parch Thomas Nicholson.[6] Wedi treulio ychydig dros dair blynedd yn Abertawe, symudodd i gymryd gofal Salem, Porthmadog, fel olynydd i'r Dr Lewis Probert ym 1892.[7] Arhosodd ym Mhorthmadog hyd ddiwedd ei yrfa. Gwasanaethodd fel cadeirydd Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd o enwad yr Annibynwyr ym 1902, bu hefyd yn ysgrifennydd cronfa (pwyllgor cyllid) y cyfundeb am sawl flwyddyn. Bu'n aelod o bwyllgor golygyddol "Y Caniedydd Cynulleidfaol", y llyfr emynau a defnyddiodd yr Annibynwyr rhwng 1895 a 1921. Gwasanaethodd fel cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1929-30 Roedd Nicholson yn gallu barddoni ac enillodd ambell i wobr mewn eisteddfodau lleol, roedd hefyd yn gerddor pur fedrus yn gallu canu, chwarae'r organ a chyfansoddi, ond ni chyhoeddwyd dim o weithiau. Roedd yn cael ei gofio yn bennaf fel un o bregethwyr mwyaf grymus a phoblogaidd ei enwad yn ei gyfnod. [4] Ymddeolodd Nicholson o'r weinidogaeth ym 1940 oherwydd afiechyd a bod o'n colli ei olwg.[1] TeuluYm 1909 priododd Nicholson â Prudence M'Lean, merch hynaf Robert M'Lean, aelod. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchg Thomas Nicholson, Paddington, ewythr y priodfab. [8] Ni fu iddynt blant. MarwolaethBu farw ym Mhorthmadog yn 77 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Salem, Porthmadog.[9] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia