Theses on the Philosophy of History, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction, The Origin of German Tragic Drama, One Way Street, The arcades project
Cyfrannodd Benjamin yn helaeth i ddatblygiad a syniadaeth damcaniaeth beirniadol a diwylliannol gyda gwaith fel Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit ("Gwaith Celf yn Oes Atgynhyrchu Mecanyddol", 1935), ei waith enwocaf. Mae Benjamin yn ystyired sut mae ffydd o gynhyrchu, fel ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio’r celfyddydau.[2]
Roedd gan Benjamin ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a llenyddiaeth ei oes. Dadansoddodd waith Franz Kafka, Brecht a Friedrich Hölderlin gan geisio gwahanu'r gwaith o’u cyd-destun penodol.
Bu farw yn 48 oed wrth geisio dianc rhag y Natsïwyr yn Portbou, Catalunya wrth ffin Ffrainc a Sbaen.[1] Mewn cyflwr iechyd gwael ac wrth anobeithio am broblemau ei daith i geisio cyrraedd yr Unol Daleithiau, lladdodd Benjamin ei hun trwy gymryd gorddos o forffin. Yn 2001 ymddangosodd erthygl a oedd yn honni iddo gael ei ladd gan asiantau Stalin.[3] Ond mae arbenigwyr ar fywyd Benjamain yn diystyru hyn.[4]
Prif waith
"Zur Kritik der Gewalt", Archiv für Sozialwissenschaft und Sozialpolitik (1921)
"Goethes Wahlverwandtschaften", Neue Deutsche Beiträge (1924/5)
Ursprung des deutschen Trauerspiels (traethawd, Prifysgol Frankfurt am Main, 1925)
Einbahnstraße (Berlin, 1928)
"Karl Kraus", Frankfurter Zeitung (1931)
"Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit", Zeitschrift für Sozialforschung (1935–9)
"Berliner Kindheit um 1900" (1938)
"Das Paris des Second Empire bei Baudelaire" (1938)