Vladimir Nabokov Ffugenw ვლადიმერ სირინი, Vladimir Sirin, Владимир Сирин Ganwyd 10 Ebrill 1899 (yn y Calendr Iwliaidd ) St Petersburg Bu farw 2 Gorffennaf 1977 Montreux Man preswyl Montreux , Ashland , St Petersburg , Berlin , Paris , Cannes , Menton, Livadiya, Caergrawnt , Prag , Antibes , Fréjus, Manhattan , Wellesley , Cambridge , Ithaca , Chauncy Street Dinasyddiaeth Ymerodraeth Rwsia , Unol Daleithiau America Alma mater Galwedigaeth nofelydd, bardd , llenor , swolegydd, cyfieithydd, dramodydd , hunangofiannydd, sgriptiwr , gwyfynegwr, academydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, awdur ffuglen wyddonol, arbenigwr gwyddbwyll, chwaraewr gwyddbwyll, ysgolhaig llenyddol, pryfetegwr, llenor dysgedig Cyflogwr Adnabyddus am The Defense, The Real Life of Sebastian Knight, Lolita , Pale Fire, Speak, Memory Arddull dychan Mudiad moderniaeth Tad Vladimir Dmitrievich Nabokov Mam Yelena Rukavishnikova Priod Véra Nabokov Plant Dmitri Nabokov Perthnasau Serge Nabokov, Vladimír Petkevič Llinach House of Nabokov Gwobr/au Cymrodoriaeth Guggenheim Gwefan https://www.vladimir-nabokov.org Chwaraeon Gwlad chwaraeon Unol Daleithiau America llofnod
Llenor amryddawn a thoreithiog yn Rwseg a Saesneg oedd Vladimir Nabokov (22 Ebrill 1899 - 2 Gorffennaf 1977 ).[ 1] Cafodd ei eni yn St Petersburg i deulu Rwsiaidd uchelwrol. Cafodd Nabokov ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt a bu'n byw yn Ffrainc a'r Almaen cyn symud i fyw yn yr Unol Daleithiau yn 1945 a mabwysiadu dinesyddiaeth Americanaidd. Ysgrifennodd nifer o nofelau , cerddi , straeon byrion a gweithiau eraill yn Rwseg a Saesneg ond fe'i gofir yn bennaf am ei nofel ddadleuol ond tra llwyddiannus Lolita (1955). Roedd yn gyfaill i'r awdur o Wyddel James Joyce .
Vladimir Nabokov ar glawr Time , 1969
Nofelau Saesneg
Nabokov y naturiaethwr
Roedd Nabokov yn ddyn amryddawn iawn. Wyddoch bod yr awdur enwog amlieithog hwn o Rwsia a ysgrifennodd y nofel Lolita hefyd yn entomolegydd o fri? Disgrifiodd sawl rhywogaeth o loÿnnod byw ac fe enwyd un ar ei ôl (Echinárgus NABOKOV 1945 [Lycáenidae ]: a genus of butterflies named by Vladimir Nabokov )[1] Archifwyd 2017-10-04 yn y Peiriant Wayback [ 2]
Cyfeiriadau