Vaudeville
Genre o theatr amrywiolaethol gyda phwyslais ar gomedi yw vaudeville neu weithiau yn Gymraeg fodfil[1] a darddodd yn Ffrainc yn niwedd y 19g ac a fu'n hynod o boblogaidd yn Unol Daleithiau America a Chanada o'r 1880au i'r 1930au. Cychwynnodd fel ffars neu gomedi sefyllfa, heb neges nac amcan, wedi ei chymysgu â pherfformiad dramatig, megis ymson neu farddoniaeth ysgafn, a chaneuon, dawnsiau bale, neu ffurf gerddorol arall. Datblygodd yn sioe amryfath boblogaidd a gyfunai digrifwch ysgafn a miwsig ar y llwyfan, yn debyg i draddodiad y neuadd gerdd yng Ngwledydd Prydain,[2] lle cyfeiria'r term vaudeville at adloniant mwy dosbarth gweithiol a fyddai wedi cael ei ystyried yn "fwrlésg" yn yr Unol Daleithiau. Byddai sioe vaudeville yn cynnwys sawl act wahanol yn dilyn ei gilydd ar yr un llwyfan, a byddai'r perfformwyr yn aml yn cynnwys cerddorion a chantorion poblogaidd a chlasurol, minstreliaid croenddu ac wynebddu, dawnswyr, digrifwyr, anifeiliaid gwneud campau, lledrithwyr, tafleiswyr, dynion cryf ac athletwyr, dynion yn dynwared merched, acrobatiaid, clowniaid, jyglwyr, actorion yn chwarae dramâu un-act neu olygfeydd dethol o ddramâu, ac enwogion yn darlithio. Yn niwedd y 19g, yn ystod dyddiau cynnar y taflunydd a lluniau symudol, dechreuodd theatrau vaudeville arddangos caneuon darluniedig a ffilmiau byrion, a dyna oedd prif gynulleidfa'r sinema nes dyfodiad y nickelodeons. Yn yr Unol Daleithiau a Chanada, dylanwadwyd ar ddatblygiad vaudeville gan sawl gwahanol draddodiad, gan gynnwys y gyngerdd salŵn, canu'r minstreliaid croenddu ac wynebddu, sioeau pobl hynod, yr amgueddfa ddimai, a'r bwrlésg Americanaidd. Gelwid vaudeville yn "galon sioe fusnes America".[3] Câi ddylanwad ar adloniant modern, yn enwedig ffilmiau comedi a chomedi stand-yp. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia