Tywysog Orange
![]() Teitl brenhinol oedd yn wreiddiol yn deitl rheolwr Tywysogaeth Orange, yn awr yn rhan o dde Ffrainc yw Tywysog Orange (Iseldireg: Prins van Oranje). Yn 1544, daeth Tywysogaeth Orange i feddiant Wiliam o Orange a brenhinllin Orange-Nassau. Trwyddynt hwy, daeth yn deitl a ddefnyddir gan deulu brenhinol yr Iseldiroedd. Yn awr, mae'n perthyn i etifedd gwrywol i orsedd yr Iseldiroedd; y deilydd presennol yw'r Tywysog Willem-Alexander. Roedd Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban yn wreiddiol yn Dywysog Orange. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Boyne, ac oherwydd hyn y cafodd y Sefydliad Orange yng Ngogledd Iwerddon ei enw. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw oren, daeth y lliw yma i gynrychioli yr Iseldiroedd ac unoliaethwyr Gogledd Iwerddon. |
Portal di Ensiklopedia Dunia