The Cocktail Waitress
Nofel gan James M. Cain yw The Cocktail Waitress. Hon yw'r nofel olaf gan Cain, fu farw pan oedd yn ei hadolygu ym 1977. Cyhoeddwyd o'r diwedd ym mis Medi 2012 gan y cyhoeddwr Hard Case Crime, a dreuliodd naw mlynedd yn dod o hyd i'r llawysgrif ac yn ennill hawliau cyhoeddi.[1] Golygwyd y llawysgrif gan Charles Ardai, sefydlwr Hard Case Crime, a ddaeth o hyd iddo ar ôl clywed stori gan yr awdur Max Allan Collins am "nofel goll" gan Cain.[2][3] Yn ôl bookreporter.com, cyhoeddiad y nofel hon oedd "digwyddiad llenyddol pwysicaf 2012".[4] PlotMae'r nofel yn dweud stori Joan Medford, gweddw ifanc sy'n gweithio mewn lolfa goctel a'r femme fatale sy'n adrodd y stori.[5] Derbyniad beirniadolCymharodd nifer o feirniaid The Cocktail Waitress gyda nofelau enwocaf Cain, The Postman Always Rings Twice a Double Indemnity. Yn ôl Laura Wilson yn The Guardian, nid yw The Cocktail Waitress yn gystal â'r ddwy nofel honno ond mae ganddi ddiweddglo sy'n "real shocker" ac yn werth ei darllen.[6] Cytunodd Brian Bethune yng nghylchgrawn Maclean's bod y diweddglo yn nodweddiadol o athrylith Cain yn ei genre.[7] Datganodd Michael Connelly yn The New York Times bod y nofel "yn sicr yn adlonni, ond hefyd yn siomi".[8] Disgrifiodd Alice Charles o The Huffington Post Joan Medford fel "arwres y gallem ni i gyd ei chefnogi", ond beirniadodd y plot am gael gormod o gyd-ddigwyddiadau y gellir wedi eu hepgor.[9] Derbynnodd y nofel adolygiad llawn clod gan Vance Garnett yn The Washington Times, a gynghorodd i ddarllenwyr sy'n newydd i waith Cain i gychwyn â'r nofel hon.[10] Ar y llaw arall ysgrifennodd Len Gutkin adolygiad negyddol yn y Los Angeles Review of Books, gan ddisgrifio'r nofel yn "eitha' llugoer" ac yn debyg i weithiau olaf eraill Cain, heb fedr ei nofelau cynnar.[11] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia