Teyrnas Hwngari
Brenhiniaeth a fodolai yng Nghanolbarth Ewrop am fil o flynyddoedd bron, o'r Oesoedd Canol hyd at yr 20g, oedd Teyrnas Hwngari (Hwngareg: Magyar Királyság, Lladin: Regnum Hungariae, Almaeneg: Königreich Ungarn). Dyrchafwyd Tywysogaeth Hwngari yn deyrnas Gristnogol yn sgil coroni István I yn y brifddinas Esztergom ym 1000;[1] teyrnasai brenhinllin Árpád am y trichan mlynedd ddilynol. Erbyn yr 12g, cyrhaeddai Hwngari statws pŵer canol yn Ewrop.[1] Meddiannwyd canolbarth a thiriogaeth ddeheuol Hwngari gan yr Ymerodraeth Otomanaidd yn sgil Brwydr Mohács (1526), a rhannwyd y deyrnas yn dridarn: Hwngari Frenhinol, a barhaodd yn deyrnas dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg; Hwngari Otomanaidd, a fu dan reolaeth y Tyrciaid o 1541 hyd at ei hildio i'r Hapsbwrgiaid ym 1699; a Thywysogaeth Transylfania, a fyddai'n lled-annibynnol o 1570 nes iddi fynd yn ddarostyngedig i'r Hapsbwrgiaid ym 1711.[1] Ym 1867, dyrchafwyd y deyrnas gan gyfaddawd "y Frenhiniaeth Ddeuol" a drodd Ymerodraeth Awstria yn Awstria-Hwngari. Daeth Teyrnas Hwngari i ben yn sgil cwymp y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1918, a sefydlwyd Gweriniaeth Hwngari. Adferwyd y deyrnas mewn enw ym 1920, ond heb frenin, a phenodwyd y Llyngesydd Miklós Horthy yn rhaglyw. Trodd Hwngari yn weriniaeth unwaith eto o ganlyniad i feddiannaeth y wlad gan yr Undeb Sofietaidd ym 1946.[1] Brenhinllin Árpád (1000–1301)Brenhinoedd o linach Árpád
István I (1000–38) Y wladwriaeth Hwngaraidd gyntaf yng Ngwastadedd Hwngari oedd Tywysogaeth Hwngari, a sefydlwyd tua 895 trwy uno llwythau'r Magyariaid dan arweiniad y penadur Árpád, wedi iddynt fudo o'r stepdiroedd yn y dwyrain a goresgyn Basn Panonia i orllewin Mynyddoedd Carpathia. Yn 972, trodd yr Uchel Dywysog Géza, gor-ŵyr Árpád, yn Gristion. Fe'i olynwyd yn 977 gan ei fab István (Steffan), a orchmynnodd i'r holl Hwngariaid fabwysiadu'r ffydd Gristnogol. Datganwyd István yn apostol gan y Pab Silvester II, a fe'i coronwyd yn Frenin István I ar Ddydd Nadolig 1000, gan sefydlu felly Teyrnas Hwngari, un o deyrnasoedd Catholig Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Roedd István yn briod i Gisela o Fafaria, chwaer yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Harri II, ac ymdrechodd i fagu cysylltiadau agos rhwng Hwngari a'r gwledydd Almaeneg. Yn ei brifddinas Esztergom, gosodai cyfreithiau ysgrifenedig cyntaf Hwngari, a gwahoddodd ysgolheigion a chrefftwyr yn ogystal â chenhadon o bedwar ban Ewrop i'w deyrnas i gryfhau'r berthynas rhwng yr Hwngariaid a gweddill y Gristionogaeth. Enillodd reolaeth dros Dransylfania ym 1003, a chyflwynodd gyfundrefn o siroedd ar draws ei deyrnas, a phob un dan reolaeth cownt, i gymryd lle'r hen strwythur lwythol Fagyaraidd. Hawliodd yn eiddo'r Goron yr holl diriogaeth yn Hwngari nad oedd ym meddiant dynion rhydd, gan osod sail i gyfoeth a grym y frenhiniaeth. Bu farw István ym 1038, ac erbyn diwedd y ganrif câi ei ganoneiddio. Daeth Coron Apostolaidd Sant István yn un o brif symbolau Hwngari. Byddai nifer o ddisgynyddion István yn cystadlu dros olyniaeth brenhinllin Árpád. Er gwaethaf, llwyddasant i wrthsefyll ymdrechion yr ymerodron Glân Rhufeinig i reoli Hwngari, yn enwedig ym 1063 a 1074. Estynnodd y Brenin László I (1077–95) ddylanwad ei wlad dros Groatia, ac ym 1102 coronwyd Kálmán (1095–1116) yn Frenin Croatia a Dalmatia, gan sefydlu undeb personol rhwng Hwngari a Chroatia a barodd hyd at 1526. Yn yr 12g daeth Hwngari yn ei thro dan ddylanwad yr Ymerodraeth Fysantaidd, a ymyrrodd yn y cystadlu dros yr orsedd rhwng István III (1162–72) â'i ewythrod László II (1162–63) ac István IV (1163–65). Ailsefydlwyd annibyniaeth ac awdurdod y frenhiniaeth gan Béla III (1172–96), ac yn ystod ei deyrnasiad efe cyrhaeddodd brenhinllin Árpád anterth ei grym. Enillodd reolaeth dros Serbia i'r de a Galisia i'r gogledd, gan wneud Hwngari yn un o'r prif bwerau yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Fodd bynnag, dirywiodd y frenhiniaeth wedi marwolaeth Béla III o ganlyniad i arfer y brenhinoedd Imre (1196–1204) ac András II (1205–35) o wobrwyo'u cefnogwyr gyda rhoddion mawr o diriogaeth, a wanychodd gyfoeth a grym y goron. Yn raddol, datblygodd cyfansoddiad Hwngari ar sail cyfreithiau István I, ac ym 1222 cyhoeddodd András II y Bwl Euraid, un o'r esiamplau cynharaf o gyfyngiadau cyfreithiol ar rymoedd y frenhiniaeth mewn unrhyw wlad yn Ewrop. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia