Miklós Horthy
Gwladweinydd o Hwngari oedd Miklós Horthy de Nagybánya (Hwngareg: Vitéz[1] nagybányai Horthy Miklós; ynganiad: [ˈviteːz ˈnɒɟbaːɲɒi ˈhorti ˈmikloːʃ]; geni Kenderes, Hwngari, 18 Mehefin 1868 - marw Estoril, Portiwgal, 9 Chwefror 1957). Roedd yn Ddug Szeged ac Otranto, yn Llyngesydd o lynges Ymerodraeth Awstria-Hwngari, yna'n Rhaglaw Teyrnas Hwngari (1920-1944). Yn ôl yr arferiad Hwngared, rhoir y cyfenw gyntaf, ac enwir ef yn Horthy Miklós. Mae ei fywyd a'i etifeddiaeth yn dal i fod yn destun balchder neu drafod ac angydfod ymlyth pobl Hwngari a thu hwnt.[2][3][4][5] Magwraeth a blynyddoedd cynnar![]() Ganed Horthy yn Kenderes i deulu ffyrnig Calfinaidd o bendefigaeth wledig Hwngari. Roedd ei dad, Istvan, yn aelod o Siambr y Pendefigion, oedd yn rhan o ddemocratiaeth rhannol Hwngari ar y pryd. Ymunodd Horthy ag Academi Forwrol Awstria-Hwngari (k.u.k. Marine-Akademie) yn Fiume (bellach Rijeka, Croatia) yn 14 oed.[6] Gan mai Almaeneg oedd iaith swyddogol yr Academi, siaradai Horthy ag acen ysgafn, ond adnabyddiedig Awstriaidd Almaeneg am weddill ei fywyd. Siaradai hefyd Eidaleg, Croatieg, Saesneg a Ffrangeg. Bu iddo ddatblygu gyrfa wych yn y Llynges. Ar ôl dal swydd ddiplomyddol isel yn llysgenhadaeth Austro-Hwngari yn Nhwrci, rhwng 1896 a 1912 cododd o raglaw i fod yn gapten. Yn 1910 penodwyd ef yn aide-de-camp i'r Franz Joseph I, Ymerawdwr Awstria-Hwngari, yr oedd yn teimlo defosiwn mawr iddo. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe orchmynnodd y frwydr "Novara", ar fwrdd y cafodd ei glwyfo'n ddifrifol ym Mrwydr Otranto .blockade y Môr Adriatig gan y Cynghreiriaid. Yn 1918 dychwelodd i'r gwasanaeth ac yna cafodd ei ddyrchafu'n lyngesydd a'i benodi'n brif-bennaeth y fflyd gan yr Ymerawdwr Karl I newydd o Awstria. Wedi'r Rhyfel MawrAr ôl i'r Rhyfel ddod i ben a chwalwyd llynges Awstria (dan Cytundeb Saint-Germain) a Hwngari (Cytundeb Trianon), oherwydd diffyg mynediad i'r môr gan y ddwy wlad, tynnodd Horthy yn ôl i'w ystâd. Fodd bynnag, pan gyhoeddodd clymblaid gymdeithasol-gomiwnyddol Béla Kun Weriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919), gofynnodd lluoedd gwrth-chwyldroadol ar i Horthy - y dyn milwrol mwyaf mawreddog - eu harwain, tra bod byddin Rwmania wedi goresgyn y wlad. a bu yno hyd 1920. Yn y cyfamser roedd Horthy a charfan gyfreithlon ei fyddin wedi swyno'r cyn Karl I, Ymerawdwr Awstria-Hwngari (Karl IV yn Hwngari) i ystyried adfer y frenhiniaeth (mewn gwirionedd, nid oedd erioed wedi ymwrthod â gorsedd Hwngari). Ar 1 Mawrth 1 1920, ailsefydlodd y Cynulliad Cenedlaethol Teyrnas Hwngari, ond yn rhannol oherwydd pwysau gan Bwerau'r Cynghreiriaid, yn rhannol oherwydd gwrthdroad mwyafrif i'r Habsburgiaid a hefyd oherwydd pwysau seicolegol gan y fyddin a oedd yn amgylchu adeilad y senedd yn Budapest, cyhoeddwyd Miklós Horhty yn Rhaglaw am fywyd dros y deyrnas ac fe’i cynysgaeddodd â digon o bwerau. Yn llythrennol, cafodd "yr un rhagorfraint â'r brenin, heblaw am roi teitlau bonheddig a nawdd uchel dros Eglwys Gatholig Hwngari." Roedd paradocs dwbl Horthy i fod yn lyngesydd o ddim llynges ac yn rhaglaw heb frenin. Er bod ganddo bwerau brenhiniaeth gyfansoddiadol yn ffurfiol (cynnull a diddymu senedd, penodi a dirymu’r prif weinidog a’r llywodraeth yn seiliedig ar benderfyniadau cynulliad, a bod yn brif oruchwyliwr y lluoedd arfog), y gwir yw, mewn Hwngari a ymrysonodd i oresgyn cywilydd y cyfnod ôl-rhyfel, rhoddodd anian genedlaetholgar, geidwadol a thadol Horthy allu mawr iddo i ddartelage dros holl organau'r wladwriaeth. Yn ôl ceryntau Canol Ewrop ar y pryd, o’r tridegau dechreuodd benodi gweinidogion y Blaid y Croes Saethau (Hwngareg: Nyilaskeresztes Párt – Hungarista Mozgalom, lyth. "Croes Saethau-Mudiad Hwngaraidd", talfyried NYKP) - plaid Natsïaidd Hwngari. Caniataodd yr agosrwydd ideolegol i drefn yr Almaen, a fynegwyd mewn mesurau cyfyngol ar gyfer y gymuned Iddewig, Hwngari ym 1938. Yn dilyn Anschluss yr Almaen ag Awstria ac yn sgil "llwyddiant" yr Almaen gyda Cytundeb München ail-lunio ffiniau Tsiecoslofacia yn ôl ffiniau ethnig, pwysodd Horthy am i Hwngari hefyd allu ail-lunio ffiniau yn ôl poblogaeth ethnig Hwngareg, a gydag hynny, adfer peth o'r tiroedd a gollodd Hwngari yng Nghytundeb Trianon. Yn dilyn Cyflafareddiadau Fienna cafwyd Dyfarniad Gyntaf Fienna lle trosglwyddwyd tiroedd yn Slofacia (Hwngareg: Felvidék - "ucheldir") ac yn Rwthenia yn 1938 ac 1939 ychydig cyn i'r Ail Ryfel Byd gychwyn. Dyfarniadau Fienna a'r Ail Ryfel BydPan oresgynnodd yr Almaen Wlad Pwyl (1939), gwrthododd Horthy nid yn unig ganiatáu i filwyr yr Almaen fynd trwy Hwngari, ond cynhaliodd hefyd nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad Pwyl, llawer ohonynt yn Iddewon. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, datganodd y wlad ei hun yn ffurfiol niwtral, er iddi fanteisio ar y Rhyfel i adfer tiriogaethau a oedd yn perthyn iddi, megis Transylfania oddi ar Rwmania yn Ail Ddyfarniad Fienna (1940) a Vojvodina oddi ar Iwgoslafia (1941). Daeth Horthy yn agos iawn at gyflawni'r freuddwyd o Hwngari Fawr, hynny yw, y tiroedd a reolau Hwngari rhwng 1867-1918. Fodd bynnag, ychydig wythnosau ar ôl i’r Almaen ymosod ar yr Undeb Sofietaidd (1941), achosodd digwyddiad ar y ffin i Hwngari ymuno â’r Echel, ond fe wnaeth trechu ei fyddin yn gyflym argyhoeddi Horthy i geisio heddwch unochrog gyda’r Rwsiaid. Rhwng 1942 a 1944 roedd ganddo lawer o gysylltiadau â'r Cynghreiriaid a Cadlywydd Tito, wrth agor y wlad i bron i filiwn o Iddewon a llawer o garcharorion rhyfel a lwyddodd i ddianc o'r Almaen. Yn 1942 penododd ei fab Isztván yn is-raglaw, ond buan y bu farw mewn damwain awyren o ganlyniad i sabotaj y Natsïaid. Ym mis Mawrth 1944 aeth byddin yr Almaen i mewn i Hwngari a gorfodi Horthy i benodi llywodraeth byped dan arweiniad y Döme Sztójay o blaid y Natsïaid. Gyda chydweithrediad agos yr SS a'r "Arrow Crosses", ymhen ychydig wythnosau bu alltudiaeth dorfol o Iddewon - mwy na hanner miliwn - i wersylloedd difodi, ar wahân i'r bennod enwog o deuluoedd cyfan y cawsant eu saethu ar y glannau’r Donaw yn Budapest i’r dŵr gario’r cyrff i ffwrdd. Ymatebodd Horthy trwy ddiswyddo Sztójay a thrafod ildio gyda’r Rwsiaid a oedd eisoes yn meddiannu llawer o’r wlad. Yna gorfodwyd ef i ymddiswyddo fel Rhaglaw y deyrnas (15 Hydref 1944)) - i roi pwysau arno, aeth comando dan arweiniad Otto Skorzeny cyn belled ag i herwgipio ei ail fab, a elwir hefyd yn Miklós, cafodd ei arestio a wedi ei garcharu yn Bafaria, nes iddo syrthio i ddwylo milwyr Americanaidd.[7] Wedi'r Ail Ryfel BydAr ddiwedd y Rhyfel, er gwaethaf ei weithredoedd parthed Rwmania ac Iwgoslafia, fe'i At the end of the war, despite what was intended of Romania and Yugoslavia , he was ryddhawyd o unrhyw fai fel "Troseddwr Rhyfel". Fe'i ryddhawyd yn syth ac aeth yn alltud i Bortiwgal lle bu farw. Yn 1993,yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietaidd a llywodraeth gomiwnyddol Hwngari, fe ddychwelwyd ei weddillion i Hwngari a'i gladdu yn pantheon y teulu Kenderes.[8] Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia