Talaith Bolzano
Talaith ymreolaethol yn rhanbarth Trentino-Alto Adige, yr Eidal, yw Talaith Bolzano (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladineg: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol). Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg. Dinas Bolzano yw ei phrifddinas.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 533,267.[1] Mae'r dalaith yn cynnwys 116 o gymunedau (comuni). Y mwyaf yn ôl poblogaeth yw Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige ac mae'n ffinio ar y Swistir ac Awstria. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladineg, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif. Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal. Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd: Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladineg sydd yn y mwyafrif. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia