Bolzano
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd yr Eidal yw Bolzano (Almaeneg: Bozen, Ladineg: Bulsan), sy'n prifddinas a dinas fwyaf Talaith Ymreolaethol Bolzano. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 99,764. Er bod y mwyafrif o boblogaeth y dalaith yn siarad Almaeneg fel mamiaith, yn ninas Bolzano yn 2001 roedd 73% yn siarad Eidaleg fel mamiaith, 26% Almaeneg ac 1% Ladineg.Roedd 8% o'r boblogaeth yn dramorwyr. Saif y ddinas lle mae afon Talfer (Talvera) yn llifo i mewn i afon Eisack (Isarco), Ychydig i'r de o'r ddinas, mae'r Eisack yn llifo i mewn i afon Etsch (Adige). Ceir amgueddfa archaeolegol yn y ddinas, lle gellir gweld gweddillion Ötzi, y dyn o Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn y cafwyd ei gorff mewn rhewlif yn y mynyddoedd gerllaw Bolzano. Ceir nifer o gestyll yn yr ardal; y tri pwysicaf yw Castell Maretsch, Castell Runkelstein a Castell Sigmundskron. Pobl enwog o Bolzano
|
Portal di Ensiklopedia Dunia