T. J. Morgan
Athro ac awdur oedd Thomas John Morgan (22 Ebrill 1907 – 9 Tachwedd 1986),[1] neu T. J. Morgan. Roedd yn dad i'r gwleidydd Rhodri Morgan a'r hanesydd Prys Morgan. BywgraffiadCafodd ei eni yn Ynys-y-mwn ym mhentref Y Glais, ger Abertawe, i deulu o weithwyr diwydiannol. Fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Abertawe, a Choleg Prifysgol, Dulyn. Priododd Huana Rees (ganwyd 21 Ebrill 1906) yng Nghapel Moriah, Ynystawe, Abertawe ar 7 Ebrill 1935. Ganwyd eu meibion, Rhodri a Prys yng Nghaerdydd. Bu farw yn Bishopston yn 1986 a bu farw ei wraig yn Rhagfyr 2005. GyrfaDechreuodd ei yrfa academaidd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, ac yna, wedi cyfnod yn was sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i penodwyd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru ym 1951. Dychwelodd i Abertawe ym 1961 yn Athro'r Gymraeg, a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol. Ystyrir mai e waith ysgolheigaidd pwysicaf yw ei gyfrol Y Treigladau a'u Cystrawen, a gyhoeddwyd ym 1952.[2] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia