Prys Morgan
Hanesydd a llenor o Gymru yw Prys Tomos Jon Morgan (ganed 7 Awst 1937).[1] Mae wedi ysgrifennu sawl cyfrol ac erthygl ar hanes Cymru, yn Saesneg, ac ar hyn o bryd mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth. Yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn ddarlledwr, yn olygydd cylchrawn ac yn awdur ffuglen a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal. GyrfaGaned Prys Morgan yn ninas Caerdydd, yn fab i'r academydd T. J. Morgan. Ganwyd ei frawd iau Rhodri, a ddaeth yn Brif Weinidog Cymru, ddwy flynedd ar ei ôl yn 1939. Fel ei frawd, astudiodd Prys Morgan yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, cyn dod yn aelod o staff Adran Hanes Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle bu ei dad yn athro o'i flaen. Bu'n ddirprwy olygydd y cylchgrawn Barn o 1966 hyd 1973.[2] Ar ôl ymddeol o'r byd academaidd daeth yn Arlywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn Arlywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar ôl cyfnod hir fel golygydd Trafodion y Gymdeithas. Er ei fod wedi ymddeol fel athro, mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, prosiect y mae ei ymchwil yn dwyn ffrwyth fel cyfres o gyfrolau newydd ar bob agwedd ar fywyd a gwaith y llenor a ffugiwr enwog hwnnw o'r 18g. Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol. GwaithYmhlith llyfrau Prys Morgan[2] ceir:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia