Surop masarn
![]() Surop a wneir o sudd sylem y fasarnen, gan amlaf y fasarnen siwgr, y fasarnen goch a'r fasarnen ddu, yw surop masarn[1] neu sudd masarn.[1] Mewn hinsawdd oer, mae coed masarn yn storio startsh yn eu boncyffion a'u gwreiddiau cyn i'r gaeaf dŵad; caiff y startsh ei droi'n siwgr ac yn codi o'r sudd yn y gwanwyn. Caiff masarn eu tapio trwy durio tyllau yn eu boncyffiau a chasglu'r sudd. Prosesir y sudd drwy ei wresogi i anweddu'r dŵr, gan adael y surop tewychedig. Cesglir surop masarn yn gyntaf gan bobloedd brodorol Gogledd America. Mabwysiadodd setlwyr Ewropeaidd y dull o dapio, ac yn raddol datblygodd hwy y broses gynhyrchu. Mae talaith Québec yn cynhyrchu tua dwy ran o dair o surop masarn y byd;[2] mae Canada'n allforio mwy na C$145 miliwn o surop masarn y flwyddyn.[3][4] Vermont yw'r cynhyrchydd mwyaf yn yr Unol Daleithiau, ac yn gwneud rhyw 5.5 y cant o surop masarn y byd.[5] Bwyteir surop masarn yn aml am frecwast gyda chrempogau, wafflau, tost Ffrengig, neu uwd. Defnyddir hefyd fel cynhwysyn wrth bobi bwydydd melys. Mae gan surop masarn bwysigrwydd diwylliannol yng Nghanada a Lloegr Newydd. Dangosir deilien fasarn ar faner Canada,[6] ac mae gan nifer o daleithiau'r Unol Daleithiau y fasarnen siwgr fel coeden swyddogol y dalaith.[7] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia