Masarnen
![]() Rhywogaeth o fasarnen sy'n frodorol i Ewrop ac de-orllewin Asia yw Masarnen neu Jacmor, Acer pseudoplatanus (Saesneg: Sycamore neu Sycamore Maple). Mae ganddi daldra hyd at 35 m.[1] Defnyddir ei sudd i wneud surop masarn. FfenolegCafwyd casgliad-benthyg o gyfres o ddyddiaduron gan ffermwr ALlJ (nid yw am i ni gyhoeddi ei enw) o waelod Harlech. Mae’r cofnodion yn drwyadl iawn ac mae ynddynt aml i gofnod tymorol cyson o’r gog yn canu am y tro cyntaf ar wennol yn cyrraedd. Y math mwyaf cyson o gofnod sydd ganddo yw cyfres hir o ddyddiadau deilio UN fasarnen ym muarth y fferm. Gosodwyd y cofnodion hyn fel graff (isod). Mae'n awgrymu bod deilio hwyr yn cydfynd efo gwanwyn "hwyr" a deilio cynnar yn cydfynd efo gwanwyn "cynnar". Mae'r graff hefyd yn awgrymu (ond heb sail ystadegol cryf) bod y fasarnen yn tueddu i ddeilio'n gynt yn ddiweddarach (llinell yn gwyro at i lawr i'r dde).[2] ![]() ![]() EnwauMae’r goeden gyflwynedig hon yn dwyn mwy o enwau Cymraeg na‘n holl goed cynhenid Ar wahan i "masarnen" mae "jacmor" sy’n dalfyriad o "sycamor", a "jacan" yn dalfyriad o hwnnw. Mae “sycamor” yn tarddu o sycamor y Beibl, coeden gwahanol iawn. Fe barchuswyd yr enw yn ddiweddarach fel "sycamorwydden". Mae peth tystiolaeth bod yr enw yn amharchus.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia