Sichuan
Talaith yng ngorllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Sichuan (Tsieineeg: 四川省; pinyin: Sìchuān Shěng). Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 86,730,000. Prifddinas y dalaith yw Chengdu. Hyd 1997, Sichuan oedd talaith fwyaf poblog Tsieina, ond y flwyddyn honno daeth Chungking, oedd cyn hynny yn rhan o'r dalaith, yn dalaith ddinesig ar wahan. gan leihau'r boblogaeth o 30.2 miliwn. Saif Sichuan yn awr yn drydydd ymhlith taleithiau Tsieina o ran poblogaeth. Perthyna 95% o boblogaeth y dalaith i grŵp ethnig y Tsineaid Han, gyda'r 5% arall yn perthyn i nifer o grwpiau megis yr Yi, Tibetiaid, Qiang, Miao a Hui. Mae rhan orllewinol y dalaith yn cynnwys mynyddoedd mwyaf dwyreiniol yr Himalaya. Y copa uchaf yw Gongga Shan, 7590 medr uwch lefel y môr. Perthyna'r rhan yma o'r dalaith i diriogaeth hanesyddol Tibet. Yn 2006, cyhoeddwyd Gwarchodfa Natur Wolong, gwarchodfa a sefydlwyd i ddiogelu'r Panda Mawr, yn Safle Treftadaeth y Byd. Ar 12 Mai 2008 effethiwyd ar y dalaith gan ddaeargryn difrifol.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia