Mongolia Fewnol
Rhanbarth ymreolaethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Mongolia Fewnol (Tsieineeg syml: 内蒙古; Tsieineeg draddodiadol: 內蒙古; Mandarin Pinyin: Nèi Měnggǔ; Jyutping: Noi6 Mung4 gu2).[1] Saif yng ngogledd y wlad, yn ffinio ar Mongolia a Rwsia yn y gogledd. Cyfeiria Gweriniaeth Pobl Tsieina at wlad Mongolia fel "Mongolia Allanol". Defnyddia llywodraeth Mongolia Fewnol yr enw öbür mongghul ("de Mongolia"). Mae gan Mongolia Fewnol arwynebedd o 1.18 miliwn km² a phoblogaeth o 23.8 miliwn. Y brifddinas yw Hohhot. Tsineaid Han yw tua 80% o'r boblogaeth, gyda Mongoliaid yn ffurfio 17%. Er bod y mwyafrif o frodorion y wlad yn Han y mae'r llywodraeth yn ofalus i ddefnyddio arwyddion yn y Mongoleg hefyd. Defnyddir hen ysgrif y Fongoleg ym Mongolia Fewnol. Y wyddor Cyrilaidd a ddefnyddir ym Mognolia Allanol. Cyfeiriadau
Dinasoedd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia